Yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, rydyn ni'n gwneud nifer o weithgareddau sy’n cael effaith gadarnhaol a negyddol ar yr amgylchedd. Rydym yn cydnabod bod gennym rôl flaenllaw i warchod a chynnal amgylchedd naturiol y sir.
Rydym wedi gweithredu Safon Amgylcheddol y Ddraig Werdd ar draws ein holl wasanaethau. Mae hyn yn ein helpu ni leihau a rheoli'r effeithiau amgylcheddol negyddol ac i barhau i wella ein perfformiad amgylcheddol cadarnhaol,
Mae’r Ddraig Werdd yn cael ei gwirio’n annibynnol drwy asesiad blynyddol. Mae ein perfformiad amgylcheddol yn cael ei grynhoi yn yr Adroddiad Amgylcheddol blynyddol.