Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 a Rheoliadau Dyletswyddau Statudol (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i bob corff cyhoeddus adolygu a chyhoeddi amcanion cydraddoldeb a Chynllun Cydraddoldeb Strategol o leiaf bob 4 blynedd, ar ôl ystyried data perthnasol ac ymgysylltu â grwpiau sy'n cynrychioli pob un o'r nodweddion gwarchodedig.
Yn 2011-2012, dynodwyd 6 amcan lefel uchel ynghyd â meysydd gweithredu cysylltiedig a chawsant eu dynodi bryd hynny fel meysydd blaenoriaeth a’u cyhoeddi yn ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol cyntaf. Ar y pryd fe fabwysiadwyd dull gweithredu ar sail tystiolaeth a ddeuai o'r data perthnasol a oedd ar gael ac ystyriwyd y prif flaenoriaethau yr oedd cynrychiolwyr o'r gymuned wedi awgrymu ein bod yn mynd i'r afael â nhw.
Ar gyfer y Cynllun hwn, ein man cychwyn oedd gofyn i bobl Bwrdeistref Sirol Conwy, i sefydliadau perthnasol, i unigolion eraill, i’n gweithwyr, i’n rheolwyr ac i’r undebau llafur, a oedd yr amcanion cyffredinol yn parhau i fod yn berthnasol. Daethpwyd i'r casgliad o wneud y gwaith hwn bod yr Amcanion a’r Meysydd Gweithredu a gafodd eu dynodi a’u cyhoeddi yn 2012 i raddau helaeth yn parhau i fod yn berthnasol er bod rhai gwelliannau wedi cael eu hawgrymu i rai o’r meysydd gweithredu presennol ac ambell Faes Gweithredu newydd. Mae’r rhain wedi eu hamlinellu yn y Cynllun hwn.
Mae’r Cynllun Gweithredu a amlinellir yn Atodiad 1 yn dangos sut y bwriadwn gyflawni’r amcanion cydraddoldeb hyn gyda’r nod o wella profiadau ein holl ddinasyddion. Byddwn yn adrodd ar ein cynnydd o ran gwireddu’r amcanion hyn yn flynyddol.
Mae’r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i’r Cynllun ganolbwyntio ar gyflawni canlyniadau cadarnhaol i weithwyr a chwsmeriaid. Rydym wedi ceisio cyflawni hyn, gan geisio sicrhau hefyd bod cydraddoldeb yn cael ei gynnwys (ei brif-ffrydio) yn ein polisïau, yn ein swyddogaethau ac yn y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu. Rydym eisiau gwneud ein harferion a’n polisïau i gyd yn gyfan gwbl gynhwysol, gan ddileu gwahaniaethu, hyrwyddo cydraddoldeb a chroesawu amrywiaeth ym mhopeth a wnawn.
Byddwn yn parhau i herio’r ffordd yr ydym yn darparu gwasanaethau, yn datblygu polisïau ac yn cyflogi ac yn cadw pobl i sicrhau bod pawb yn cael eu trin yn deg.
Mae’r chwe Amcan Cydraddoldeb canlynol wedi eu mabwysiadu yng Nghonwy ac mae’r holl bartneriaid yng Ngogledd Cymru hefyd yn glynu atynt:
- Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb Iechyd
- Mynd i’r afael â deilliannau anghyfartal mewn Addysg i gynyddu potensial unigolion i'r eithaf
- Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn Cyflogaeth a Chyflog
- Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn Diogelwch Personol
- Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn Cynrychiolaeth a Llais
- Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb mewn Mynediad i wybodaeth, gwasanaethau, adeiladau a'r amgylchedd
Dogfennau Cysylltiedig