Cyhoeddodd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru eu hadroddiad Argymhellion Terfynol ar gyfer Conwy fis Mai 2019 fel rhan o’u hadolygiad o’r holl awdurdodau lleol yng Nghymru. Ystyriwyd yr argymhellion hyn gan Lywodraeth Cymru a gwnaethpwyd y Gorchymyn i gyflwyno’r newidiadau ddiwedd mis Medi 2021.
Nod unrhyw adolygiad etholiadol yw darparu llywodraeth leol effeithiol a hwylus sy’n parchu rhwymau cymunedol lleol hyd y gellir. Nod yr argymhellion yw gwella cydraddoldeb etholiadol fel bod pleidlais etholwr unigol yn gyfartal o ran gwerth i bleidlais etholwyr eraill yn y sir, hyd y bo modd.
Penawdau
- Gostyngiad o 59 i 55 Cynghorydd (mae hyn yn arwain at gyfartaledd sirol o 1,625 etholwr i bob Cynghorydd)
- Gostyngiad o 38 ward bresennol i 30 ward etholiadol
- Tair ar ddeg o wardiau ag un aelod
- Dwy ar bymtheg o wardiau aml-aelod (sy’n cynnwys deg o wardiau â dau aelod, chwech o wardiau â thri aelod ac un ward â phedwar aelod)
- Dim newid i 18 ward etholiadol
- Dim rhannu cymunedau ar draws y Fwrdeistref Sirol
- Newid ffiniau rhwng cymunedau Llandrillo-yn-Rhos a Bae Colwyn
- Newidiadau i enwau rhai wardiau etholiadol
Dim newidiadau i:
- Betws-yn-Rhos
- Bryn
- Colwyn
- Conwy
- Craig-y-don
- Deganwy
- Eirias
- Glyn
- Bae Cinmel/Kinmel Bay
- Llansanffraid
- Llansannan
- Llysfaen
- Mochdre
- Pandy
- Penrhyn
- Tywyn/Towyn
- Tudno
- Uwch Conwy
Newidiadau i:
Capelulo a Phant-yr-Afon/Penmaenan
- Cyfunwyd i ffurfio un ward etholiadol
- Cynrychiolir gan ddau Gynghorydd
- Mae gan y ward etholiadol newydd un enw sef Penmaenmawr
Gogarth a Mostyn
- Cyfunwyd i ffurfio un ward etholiadol
- Cynrychiolir gan dri Chynghorydd (1 yn llai)
- Mae gan y ward etholiadol newydd un enw sef Gogarth Mostyn
Marl a Phensarn
- Cyfunwyd i ffurfio un ward etholiadol
- Cynrychiolir gan dri Chynghorydd
- Mae gan y ward etholiadol newydd un enw sef Glyn y Marl
Llandrillo-yn-Rhos a Rhiw
- Newidiadau i’r ffiniau rhwng Llandrillo-yn-Rhos a Rhiw
- Eiddo wedi'u symud o Rhiw i Landrillo-yn-Rhos
- Dim newid i’r nifer y Cynghorwyr
Gele a Llanddulas
- Cyfunwyd i ffurfio un ward etholiadol
- Cynrychiolir gan dri Chynghorydd (1 yn llai)
- Mae gan y ward etholiadol newydd enw newydd sef Gele a Llanddulas yn Gymraeg a Gele and Llanddulas yn Saesneg
Abergele Pensarn a Phentre Mawr
- Cyfunwyd i ffurfio un ward etholiadol
- Cynrychiolir gan dri Chynghorydd
- Mae gan y ward etholiadol newydd un enw sef Pen-sarn Pentre Mawr
Crwst, Eglwysbach a Gower
- Cyfunwyd Crwst a Gower â Llanddoged a Maenan (oedd gynt yn rhan o ranbarth etholiadol Eglwysbach)
- Cynrychiolir gan ddau Gynghorydd
- Mae gan y ward etholiadol newydd un enw sef Llanrwst a Llanddoged
Llangernyw ac Uwchaled
- Cyfunwyd Uwch Aled (cymunedau Cerrigydrudion, Llanfihangel Glyn Myfyr, Llangwm) â Phentrefoelas (oedd gynt yn rhan o ranbarth etholiadol Llangernyw) i ffurfio un ward etholiadol
- Cynrychiolir gan un Cynghorydd
- Mae gan y ward etholiadol newydd un enw sef Uwch Aled
Eglwysbach a Llangernyw
- Cyfunwyd cymunedau Eglwysbach a Llangernyw i ffurfio un ward etholiadol
- Cynrychiolir gan un Cynghorydd (1 yn llai)
- Mae gan y ward etholiadol newydd un enw sef Eglwys-bach a Llangernyw
Betws-y-coed a Threfriw
- Cyfunwyd Betws-y-coed (cymunedau Betws-y-coed, Capel Curig, Dolwyddelan) â chymuned Trefriw i ffurfio un ward etholiadol
- Cynrychiolir gan un Cynghorydd (1 yn llai)
- Mae gan y ward etholiadol newydd enw newydd sef Betws-y-coed a Threfriw yn Gymraeg a Betws-y-Coed and Trefriw yn Saesneg
Caerhun a Threfriw
- Cyfunwyd Caerhun (cymunedau Caerhun a Henryd) â chymuned Dolgarrog i ffurfio un ward etholiadol
- Cynrychiolir gan un Cynghorydd
- Mae gan y ward etholiadol newydd un enw sef Caerhun
Gwybodaeth pellach
Argymhellion Terfynol Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar gyfer Conwy
Gorchymyn Bwrdeistref Sirol Conwy (Trefniadau Etholiadol) 2021 (legislation.gov.uk)
Enwau ac Ardaloedd Wardiau Etholiadol a Nifer Aelodau'r Cyngor