Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Cyngor Pleidleisio ac Etholiadau Ynglŷn ag Etholiadau Hysbysiad Etholiad - Etholiad Seneddol Y Du - Etholaeth Bangor Aberconwy

Hysbysiad Etholiad - Etholiad Seneddol Y Du - Etholaeth Bangor Aberconwy


Summary (optional)
start content
  1. Cynhelir etholiad i ethol Aelod Seneddol i wasanaethu dros yr Etholaeth uchod.
  2. Mae papurau enwebu ar gael yn y lle a nodir isod. Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), ar gais unrhyw etholwr, yn paratoi papur enwebu i’w lofnodi.
  3. Rhaid cyflwyno Papurau Enwebu drwy apwyntiad wedi’i drefnu ymlaen llaw i Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn Swyddfeydd Bodlondeb, Ffordd Bangor, Conwy, LL32 8DU, rhwng 10am a 4pm ar unrhyw ddiwrnod gwaith (dydd Llun i ddydd Gwener) ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwn, ond erbyn 4pm ddydd Gwener, 7 Mehefin 2024 fan bellaf.
  4. Mae'n rhaid i bob ymgeisydd dalu blaendal o £500 naill ai mewn arian parod, drafft banc (banciau sy'n gweithredu yn y Deyrnas Unedig yn unig) neu drwy drosglwyddiad banc uniongyrchol. Mae’n rhaid gwneud drafftiau banc yn daladwy i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
  5. Os bydd mwy nag un ymgeisydd, cynhelir y bleidlais ddydd Iau, 4 Gorffennaf 2024.
  6. Rhaid i geisiadau i ychwanegu enw at y Gofrestr Etholwyr er mwyn pleidleisio yn yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn Swyddfeydd Bodlondeb Conwy, LL32 8DU erbyn dydd Mawrth, 18 Mehefin 2024. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
  7. Rhaid i geisiadau, ceisiadau i newid neu geisiadau i ganslo pleidleisiau post gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm ddydd Mercher, 19 Mehefin 2024. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein yn www.gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwyr-post.
  8. Rhaid i unrhyw gais i benodi dirprwy gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm ddydd Mercher 26 Mehefin 2024. Gellir gwneud ceisiadau ar-lein yn www.gov.uk/gwneud-cais-pleidlais-drwy-ddirprwy.
  9. Rhaid i geisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr neu Ddogfen Etholwr Anhysbys sy'n ddilys ar gyfer yr etholiad hwn gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm ar ddydd Mercher, 26 Mehefin 2024. Gellir gwneud ceisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr ar-lein yn www.gov.uk/ceisio-am-lun-id-tystysgrif-awdurdod-pleidleiswyr.
  10. Mae’n rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng yn yr etholiad hwn ar sail anallu corfforol neu am resymau gwaith / gwasanaeth gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm ddydd Iau, 4 Gorffennaf 2024. Mae’n rhaid bod yr anallu corfforol wedi digwydd ar ôl 5pm ddydd Mercher, 26 Mehefin 2024. I wneud cais ar sail gwaith / gwasanaeth mae’n rhaid bod y person wedi dod yn ymwybodol na all fynd i’r orsaf bleidleisio’n bersonol ar ôl 5pm ddydd Mercher, 26 Mehefin 2024.

Rhun ap Gareth
Swyddog Canlyniadau Gweithredol

Dyddiedig: Dydd Gwener, 31 Mai 2024

end content