Cyngor Bwrdeistref Sirol
O fis Mai 2022 mae nifer y Cynghorwyr ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi lleihau o 59 i 55 Cynghorydd sy’n cynrychioli 30 o wardiau etholiadol. Roedd y newidiadau hyn yn sgil adolygiad diweddar gan y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol o’r trefniadau etholiadol yng Nghonwy.
Yn dibynnu ar faint y rhanbarth, gall fod hyd at bedwar Cynghorydd yn cynrychioli'r ardal honno.
Mae gan Gynghorwyr ddyletswydd i'r sir gyfan, ond mae ganddynt ddyletswydd arbennig i'r bobl sy'n byw yn y ward etholiadol y cawsant eu hethol i'w gynrychioli, gan gynnwys y bobl na wnaeth bleidleisio drostynt.
I gael manylion yr unigolion a enwebwyd, asiantiaid etholiad a gorsafoedd pleidleisio, chwiliwch am eich tudalen adran etholiadol yma.