Arolwg Twristiaeth STEAM
Diolch am eich cydweithrediad i ddarparu data twristiaeth gwerthfawr ar gyfer yr adroddiadau STEAM blaenorol.
Cesglir data twristiaeth ar draws y DU yn defnyddio dull safonol (STEAM) er mwyn i ni gymharu cyrchfannau.
Mae casglu’r data diweddaraf yn bwysig iawn i Gonwy, gan ein bod yn ei ddefnyddio i ddenu a hysbysu buddsoddwyr manwerthu a thwristiaeth. Mae dangos pa mor fywiog yw ein sir yn help garw i ddenu arian a busnesau newydd i’r ardal, ac mae hynny rhoi budd i ni i gyd.
Mae’r data sydd arnom ni ei angen yn ymwneud â nifer yr ymwelwyr; nid ydym ni’n gofyn am wybodaeth fasnachol sensitif. Bydd y data a gyflenwir gennych yn rhan o adran Conwy o’r adroddiad STEAM. Ni fydd eich data yn cael ei rannu gydag unrhyw sefydliad arall.
Mae yna bump categori wedi eu cynnwys yn yr arolwg STEAM
- Atyniadau
- Safleoedd gwersylla a charafán
- Llety hunanddarpar
- Lle ar gyfer gwasanaethu
- Safleoedd carafanau statig
Mae’r wybodaeth sydd arnom ni ei hangen gennych chi yn eithaf sylfaenol. Gallwch ddarparu hwn drwy lenwi ein ffurflen ar-lein.
Y dyddiad cau ar gyfer ei chwblhau yw 1 Awst 2024
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, cysylltwch â:
Kim Nicholls
Busnes a Thwristiaeth
Telephone: 01492 574555
Email: Kim.nicholls1@conwy.gov.uk