Mae gweithio i Gonwy’n dod â dyletswydd i helpu i warchod a diogelu plant ac oedolion diamddiffyn yn ein cymunedau.
Mae’n gyfrifoldeb i bawb.
Mae gennym gyfres o fodiwlau e-Ddysgu y mae’n rhaid i weithwyr eu cwblhau i sicrhau fod ganddynt y wybodaeth angenrheidiol i adnabod arwyddion mewn pobl eraill sy’n hollbwysig wrth ein helpu i gyflawni hyn.
- Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Diogelu Grŵp A
- Caethwasiaeth Fodern
- Ymwybyddiaeth Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- Y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018
- Ymwybyddiaeth Diogelwch Seiber (Defnyddwyr TG yn unig)
Mae’r modiwlau e-Ddysgu hyn yn cael eu cynnal ar y platfformau dysgu canlynol:
dysgu@cymru
Dysgu CBSC
Bydd modd i chi gael mynediad i’r modiwlau pan rydych wedi cael rhif gan yr adran gyflogau.
Mae’n bwysig bod y modiwlau’n cael eu cwblhau o fewn eich cyfnod prawf, a’ch bod yn adnewyddu eich addysg bob 3 blynedd (2 flynedd ar gyfer GDPR a Deddf Diogelu Data, ac 1 flynedd ar Ymwybyddiaeth Diogelwch Seiber).
Os ydych chi’n meddwl bod plentyn neu oedolyn diamddiffyn mewn perygl o niwed, ewch i
Rwy'n poeni am rywun - Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
aGweithdrefnau Diogelu Cymru,
rydym yn annog gweithwyr i lawrlwytho’r ap am ddim oGoogle Playneu’r Apple App Storehefyd.