Os yw unigolyn yn methu cysylltu â ni er mwyn trefnu ad-dalu gordaliad Budd-Dal Tai byddwn yn ystyried os yw ‘Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol' (AEU) yn briodol.
Byddwn yn ysgrifennu atoch cyn cysylltu gyda’ch cyflogwr i holi am AEU.
Mae AEU yn galluogi'r Awdurdod Lleol i adfer Gordaliad Budd-Dal Tai drwy ofyn i’r cyflogwr wneud didyniad o enillion gweithiwr a thalu’r enillion hynny i ni.
Mae’r gyfraith yn caniatáu i ni wneud hynny heb wneud cais i Lys Sifil ac mae cyflogwyr wedi eu rhwymo gan y gyfraith i gydymffurfio pe gofynnir iddynt wneud hynny.
Mae rheoliadau yn darparu fod cyfran o enillion yn cael eu gwarchod; cyfrifir hyn fel 60% o enillion net. Bydd y cyfanswm y bydd cyflogwr yn ei ddidynnu bob tro y caiff gweithiwr ei dalu yn dibynnu ar gyfanswm enillion net y gweithiwr a gallai fod hyd at 20% o enillion net. Gall cyflogwyr hefyd godi ffi weinyddu ar gyflogwr; ni fydd yn hyn yn fwy na £1 am bob taliad a dynnir o’r enillion.
Cyfraddau AEU Safanol
Tâl wythnosol gweithiwr | Tâl misol gweithiwr | Didyniadau o enillion net |
£100 neu lai |
£430 neu lai |
Dim didyniad |
£100.01 i £160 |
£430.01 i £690 |
3% |
£160.01 i £220 |
£690.01 i £950 |
5% |
£220.01 i £270 |
£950.01 i £1,160 |
7% |
£270.01 i £375 |
£1,160.01 i £1,615 |
11% |
£375.01 i £520 |
£1,615.01 i £2,240 |
15% |
Mwy na £520 |
Mwy na £2,240 |
20% |
Mae gan y cyflogwr ddyletswydd i hysbysu'r gweithiwr yn ysgrifenedig am faint y didyniad gan gynnwys unrhyw faint sy'n cael ei gymryd ar gyfer costau gweinyddu. Bydd didyniadau yn parhau hyd nes bydd y gordaliad wedi ei ad-dalu.
Mae gwybodaeth ar Atafaelu Enillion yn Uniongyrchol, gan gynnwys taflen ganllawiau ar gyfer cyflogwyr ar gael yma www.gov.uk/make-benefit-debt-deductions.
Os ydych wedi derbyn llythyr yn dweud wrthych ein bod yn bwriadu cysylltu gyda'ch cyflogwr i holi am AEU a'ch bod am drafod hyn, cysylltwch â'n Tîm Gordaliadau ar 01492 576602.