Oes modd i mi wneud cais?
I wneud cais am Fudd-dal Tai, mae’n rhaid i chi:
- Fyw yn yr eiddo rydych yn gwneud cais amdano
- Yn atebol am dalu'r rhent ar gyfer yr eiddo
Ac un ai:
- O oedran pensiwn
- Mewn llety â chymorth neu lety a eithriwyd
Os oes gennych dros £16,000 o gynilion, ni fyddwch yn gymwys am fudd—dal fel arfer, ac eithrio eich bod yn derbyn Credyd Gwarant Pensiwn.
Nid yw hon yn rhestr lawn, am ragor o fanylion ewch i GOV.UK
Beth os ydw i o oedran gweithio?
Mae Credyd Cynhwysol nawr yn gymwys ar gyfer preswylwyr o oedran gweithio sy’n byw yn Sir Conwy ar gyfer ceisiadau newydd a newidiadau penodol i amgylchiadau.
Ni fyddwch yn gallu gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai os ydych o oedran gweithio, ac eithrio mewn amgylchiadau penodol iawn.
Bydd cymorth gyda'ch rhent yn cael ei dalu drwy Gredyd Cynhwysol, a byddwch yn gwneud cais amdano drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau.
Am ragor o fanylion, ewch i’n gwefan www.conwy.gov.uk/credydcynhwysol neu ffonio’r Swyddfa Fudd-daliadau ar 01492 576491.
Os ydych yn atebol am dalu treth y cyngor yn yr eiddo rydych yn byw ynddo, bydd angen i chi wneud cais am ostyngiad treth y cyngor.
Sut ydw i’n gwneud cais am Fudd-dal Tai?
Os ydych chi’n meddwl y gallwch fod yn gymwys am Fudd-dal Tai, bydd angen i chi wneud cais ar-lein
Sut ydw i'n ei gyfrifo?
Bob blwyddyn, mae’r Llywodraeth yn rhoi ffigyrau i ni i ddangos faint o bobl fydd angen bodloni eu hanghenion sylfaenol. Mae’r swm hwn yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Bydd swm y budd-dal yn cael ei ostwng os oes oedolion eraill yn byw yn yr aelwyd.
Faint fydd yn cael ei ddyfarnu?
Mae gan bob eiddo preifat ac a rentir gyfradd Lwfans Tai Lleol. Y cyfanswm uchaf o'r budd-dal y gallwch ei gael yw 100% o'r gyfradd hon. Fel arfer byddwch yn cael y swm hwn os ydych yn derbyn Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceiswyr Gwaith (yn seiliedig ar incwm), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn gysylltiedig ag Incwm).
Nifer o ystafelloedd | (o Ebrill 2024) |
Llety a Rennir (O Ebrill 2019) |
£78.80 |
1 ystafell wely |
£90.90 |
2 ystafell wely |
£126.58 |
3 ystafell wely |
£149.59 |
4 ystafell wely |
£196.77 |
Cyfrifiannell cyfradd LTLl
Hawliad wedi'i ôl-ddyddio
Os ydych chi’n meddwl fod gennych achos da ar gyfer hawlio taliad wedi'i ôl-ddyddio, sicrhewch eich bod yn gwneud cais ar gyfer y cyfnod hwn. Y cyfnod hiraf y gallwn ei ystyried yw 1 mis.
Ddim yn siŵr o hyd os ydych chi'n gymwys? Peidiwch â cholli cyfle, gwnewch gais . I wneud cais am dâl wedi'i ôl-ddyddio bydd angen i chi wneud cais ar-lein neu ymweld ag un o'n swyddfeydd.
Os bydd eich amgylchiadau'n newid
Gall unrhyw newid yn eich amgylchiadau effeithio ar eich cais.
Os nad ydych yn diweddaru eich manylion mewn pryd, gallwch golli allan neu orfod ad-dalu'r swm.
Defnyddiwch y ffurflen sy’n gymwys i chi a’i defnyddio i roi gwybod i ni am newidiadau yn eich amgylchiadau.
Angen cymorth?
Os oes angen copi caled arnoch, neu gymorth gyda chwblhau unrhyw un o'n ffurflenni gallwch: