Babanod a anwyd yn Sir Conwy
Gellir cofrestru genedigaeth yn Neuadd y Dref, Llandudno drwy wneud apwyntiad.
Babanod a anwyd tu allan i Sir Conwy
- Mae angen cofrestru yn yr ardal lle cafodd y babi ei eni.
- Bydd angen cofrestru babi a anwyd yn Ysbyty Gwynedd, Bangor yng Ngwynedd
- Bydd angen cofrestru babi a anwyd yn Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan yn sir Ddinbych
- Os caiff eich babi ei eni yn unrhyw sir arall yng Nghymru neu Loegr, rhaid i'r enedigaeth gael ei chofrestru yn swyddfa gofrestru’r ardal honno. Cliciwch yma i ddod o hyd i'ch Swyddfa Gofrestru agosaf.
Cofrestru genedigaeth eich babi drwy ddatganiad
Os nad ydych yn gallu mynd i'r swyddfa gofrestru yn yr ardal lle ganwyd eich babi, gallwch wneud apwyntiad i fynychu unrhyw swyddfa gofrestru (yng Nghymru neu Loegr) i 'ddatgan' geni'r babi, yna bydd y cofrestrydd yn anfon y datganiad wedi'i lofnodi yn y post i'r swyddfa gofrestru gywir. Os byddwch yn dewis yr opsiwn hwn, NI fydd Tystysgrif geni'r babi yn cael ei rhoi i chi yn eich apwyntiad - bydd yn cael ei chyhoeddi a'i phostio atoch o swyddfa gofrestru'r ardal lle ganwyd eich babi.
Pwy all gofrestru genedigaeth?
Rhieni priod:
- Gall unrhyw riant ddod i'r Swyddfa Gofrestru
Rhieni dibriod:
- Os yw manylion y tad / yr ail riant benywaidd yn cael eu cynnwys yn y cofrestriad, yna mae’n rhaid iddynt fynychu'r Swyddfa Gofrestru gyda'i gilydd
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth ynghylch pwy all gofrestru genedigaeth ar wefan gov.uk.
Y wybodaeth bydd y cofrestrydd yn gofyn amdani:
- lle gafodd y babi ei eni, a’i ddyddiad geni
- enw, cyfenw a rhyw y babi
- enwau’r rhieni, eu cyfenwau a’u cyfeiriad
- lle gafodd y rhieni eu geni a’u dyddiadau geni
- dyddiad priodas neu bartneriaeth sifil y rhieni
- swyddi’r rhieni
- cyfenw’r fam cyn priodi
I helpu sicrhau cywirdeb y wybodaeth a gofnodir byddai'n ddefnyddiol pe gallech ddod â dogfennau adnabod gyda chi (e.e. Pasbort, Trwydded Yrru, Bil Gwasanaeth, Tystysgrifau Geni a Phriodas).
Tystysgrif Geni
Os ydych yn cofrestru genedigaeth eich babi yn yr ardal lle gannwyd eich plentyn, byddwch yn cael cyfle i brynu tystysgrif genni llawn am ffi briodol.
Ail-gofrestru genedigaeth eich plentyn
Gellir ail-gofrestru genedigaethau os:
Cofrestru Babi a anwyd yn farw
Cysylltwch â’r Swyddfa Gofrestru am gymorth pellach.