Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Seremonïau Enwi


Summary (optional)
Mae Seremoni Enwi yn ffordd arbennig i’r rhieni groesawu plentyn neu blant i’r teulu. Mae’n gyfle i ddatgan yr enw a ddewiswyd i’r plentyn neu wneud addewidion i’r plentyn.
start content

Gallwch ddewis seremoni enwi er mwyn:

  • Dathlu genedigaeth babi a chroesawu'r newydd ddyfodiad i'r teulu
  • Uno brodyr a chwiorydd â'i gilydd
  • Dod â theuluoedd ynghyd
  • Croesawu plentyn sydd wedi'i fabwysiadu

Bydd y Seremoni yn cael ei chynnal gan gofrestrydd o'r Sir a fydd yn helpu i gynllunio cynnwys y seremoni a rhoi cyngor ar nifer o ffyrdd i wneud y seremoni yn un arbennig ac unigryw. Rhai o'r rhannau hanfodol fydd cyflwyniad a chroeso, darlleniad, enwi'r plentyn neu'r plant, addewidion y rhieni, addewidion oedolion cefnogol a geiriau cloi. Gellir cynnal y seremoni yn y swyddfa gofrestru neu mewn adeilad sydd wedi'i gymeradwyo.
Nodwch nad oes statws cyfreithiol i'r seremoni ac nad yw'n bosibl ei defnyddio i newid enw plentyn.

Bydd ein swyddogion yn barod i egluro'r dewisiadau sydd ar gael a thrafod trefniadau'r Seremoni Enwi. Cysylltwch â'r Swyddfa Gofrestru i gael rhagor o fanylion.

end content