Beth fydd yn digwydd os byddaf yn cofrestru ar gyfer derbyn bil treth y cyngor dros e-bost?
- Byddwch yn derbyn pob llythyr mewn e-bost. Bydd y llythyrau hyn yn cael eu hanfon ar ffurf dogfen symudol (PDF)
- Bydd modd i chi argraffu eich bil
- Gallwch dalu eich bil yn ddiogel ar-lein drwy ddilyn y ddolen yn yr e-bost
Rhowch wybod i ni os ydych chi’n newid eich cyfeiriad e-bost.
Sut ydw i'n rhoi'r gorau i filio electronig?
Os nad ydych chi'n dymuno derbyn eich llythyrau mewn e-bost mwyach, gallwch gwblhau’r ffurflen Treth y Cyngor - rhoi'r gorau i filio electronig.
Os bydd yr e-byst y byddwn yn eu hanfon atoch yn cael eu dychwelyd atom ddwywaith fel rhai sydd heb eu derbyn byddwn yn dileu eich cais am filio electronig ac yn anfon unrhyw ohebiaeth atoch drwy'r post yn y dyfodol.
Bydd angen i chi ailgofrestru i ailgychwyn y biliau electronig eto.