Gorchymyn Atafaelu Enillion Treth y Cyngor – Cymru
O 1 Ebrill 2022, mae Gorchymyn Atafaelu Enillion Treth y Cyngor newydd yn dod i rym yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod trothwyon enillion ar gyfer cyfrifo symiau adenilladwy yn amrywio am y tro cyntaf rhwng Cymru a Lloegr.
Bydd trothwyon newydd Cymru’n berthnasol i unrhyw orchmynion newydd Cymru a gyflwynwyd ar 1 Ebrill 2022 neu wedi hynny.
Tabl Wythnosol
Enillion Net (Gorchmynion Cymru) o 01 Ebrill 2022 | Cyfradd Ddidyniadau (%) |
Heb fod yn fwy na £105 |
0 |
Yn fwy na £105 ond heb fod yn fwy na £190 |
3 |
Yn fwy na £190 ond heb fod yn fwy na £260 |
5 |
Yn fwy na £260 ond heb fod yn fwy na £320 |
7 |
Yn fwy na £320 ond heb fod yn fwy na £505 |
12 |
Yn fwy na £505 ond heb fod yn fwy na £715 |
17 |
Yn fwy na £715 |
17 ar y £715 cyntaf a 50 ar enillion net dros hynny |
Tabl Misol
Enillion Net (Gorchmynion Cymru) o 01 Ebrill 2022 | Cyfradd Ddidyniadau (%) |
Heb fod yn fwy na £430 |
0 |
Mwy na £430 ond heb fod yn fwy na £780 |
3 |
Mwy na £780 ond heb fod yn fwy na £1,050 |
5 |
Mwy na £1,050 ond heb fod yn fwy na £1,280 |
7 |
Mwy na £1,280 ond heb fod yn fwy na £2,010 |
12 |
Mwy na £2,010 ond heb fod yn fwy na £2,860 |
17 |
Mwy na £2,860 |
17 ar y £2,860 cyntaf a 50 ar enillion net dros hynny |
Canllawiau i Gyflogwyr
Os ydych yn gyflogwr ac mae’r llysoedd wedi cysylltu â chi gyda chyfarwyddyd Atafaelu Enillion, mae Canllaw Cyflogwr Gorchymyn Atafaelu Enillion ar gael yn gov.uk pe baech angen cymorth pellach.
Tâl Gweinyddol
Sylwer: ni ellwch ddidynnu’r tâl gweinyddol o £1 os yw’n gwneud incwm eich cyflogai’n is na’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol. Y mae’n drosedd i gyflogwyr beidio â thalu Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu Gyflog Byw Cenedlaethol i rywun.
Dylai cyflogwyr ddarllen 'The National Minimum Wage and Living Wage' neu gysylltu â llinell gymorth ACAS ar 0300 123 1100 am gyngor.
.