Mae’r cynllun wedi lleihau’r perygl llifogydd drwy gynyddu capasiti’r system ddraenio o 70%, a oedd yn cynnwys ceuffos newydd, gwella sianel yr afon a chodi muriau llifogydd newydd.
Roedd y gwaith yn cynnwys:
- cynyddu maint y cwlfert sy’n croesi’r A544 ar ben gogleddol y pentref
- gwella sianel yr afon yn Nalar Bach
- adeiladu argae newydd yn Nalar Bach yn y maes parcio hyd at gilfach Llain Hiraethog
- gwella’r sianel o flaen Llain Hiraethog
- disodli’r cwlfert o sianel Llain Hiraethog i lawr Ffordd Gogor, a chysylltu’n ôl i Afon Bach yn Uwch yr Aled
- dargyfeirio ceblau BT, carthffos fudr a phrif gyflenwad dŵr Dŵr Cymru
- creu ardal i eistedd yn Llain Hiraethog
Buddion amgylcheddol
- Cael gwared ar adeileddau cored mewn tri lleoliad i helpu pysgod i ymfudo
- Gosod bafflau ar hyd gwely’r sianel i greu mannau gorffwys i bysgod sy’n ymfudo
- Gosod wal gynnal â llystyfiant i wella bioamrywiaeth
Buddion cymdeithasol
- Creu dwy ardal gymunol newydd ar hyd yr A544
Cyllid y prosiect
- Ariannwyd 85% gan Lywodraeth Cymru
- Ariannwyd 15% gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Rhaglen
- Cam dylunio wedi’i gwblhau: 31 Mai 2021
- Cam tendr adeiladu: Mehefin 2021
- Dechreuodd y gwaith: Chwefror 2022
- Cwblhawyd y gwaith: Tachwedd 2022
Ffotograffau
Mae Cynllun Lliniaru Llifogydd Llansannan wedi ennill gwobr Sefydliad Peirianwyr Sifil Cymru.
Enwebwyd y cynllun gan y contractwyr, MWT Civil Engineering Cyf., gan ennill categori’r prosiect gorau dan £5 miliwn.