Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Gwasanaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol Beth i'w wneud os ydw i'n meddwl bod angen help ar fy mhlentyn yn yr ysgol

Beth i'w wneud os ydw i'n meddwl bod angen help ar fy mhlentyn yn yr ysgol


Summary (optional)
start content

Os ydych chi’n pryderu am gynnydd eich plentyn, siaradwch yn uniongyrchol â’r ysgol. Bydd athro/athrawes dosbarth eich plentyn yn gallu trafod eich pryderon gyda chi a gallant:

  • Ddarparu cymorth ychwanegol i’ch plentyn a bydd hyn yn cael ei adolygu yn rheolaidd i weld a oes angen cymorth pellach.
  • Ceisio cyngor a chymorth pellach gan Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol eich ysgol.
  • Ceisio cyngor gan weithwyr proffesiynol eraill, fel Seicolegydd Addysg neu Therapydd Lleferydd.


Os bydd y Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yn teimlo ei bod yn bosibl bod gan eich plentyn anghenion dysgu hirdymor, mae’n bosibl y byddant o’r farn bod angen Ystyriaeth ADY ar eich plentyn. Gallai’r ystyriaeth hon gynnwys arsylwi ac asesu eich plentyn dros amser, a/neu ymgynghori gyda gweithwyr proffesiynol eraill a chael cyngor ganddynt.  Bydd yn cynnwys gweithio gyda’r plentyn/person ifanc er mwyn casglu eu barn ac i osod amcanion ar y cyd.

Ar gyfer plant sydd o oedran ysgol gorfodol, yr athro dosbarth neu’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol yw’r pwynt cyswllt cyntaf. Byddant yn gallu gwrando ar eich pryderon, ac os gofynnir, dechrau ystyried a oes gan eich plentyn Anghenion Dysgu Ychwanegol. Gwneir y penderfyniad hwn o fewn 35 diwrnod gwaith, ac eithrio bod angen cyngor arbenigol pellach ar yr ysgol drwy'r Awdurdod Lleol neu’r Gwasanaethau Iechyd, ac os byddant, efallai bydd angen 12 wythnos pellach.

Yn y rhan fwyaf o achosion, gellir a dylid darparu’r help a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar blant ar ‘Lefel Gynhwysol’.  Darpariaeth Gynhwysol yw’r enw a roddir ar y ddarpariaeth, sydd fel arfer ar gael i bob plentyn a pherson ifanc, ac efallai caiff ei ddarparu ar lefel dosbarth cyfan, grŵp bach neu unigolyn. Caiff ei fonitro a’i olrhain yn unol â gweithdrefnau’r ysgol a gallai fod yn ddarpariaeth tymor byr neu hirdymor.

Os nad yw plentyn neu berson ifanc yn ymddangos fel eu bod yn dangos cynnydd gyda darpariaeth gynhwysol, yna efallai bod angen darpariaeth ddysgu ychwanegol. Bydd hyn yn cynnwys nodi a chytuno ar anghenion y disgybl trwy broses adolygiad sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ac a allai arwain at ddarpariaeth well ac amgen yn cael ei darparu i gefnogi'r disgybl i ddangos cynnydd. Ystyrir bod gan blant a phobl ifanc sy’n cael Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol ADY a bydd ganddynt Gynllun Datblygu Unigol gyhyd ag y bydd angen unrhyw Ddarpariaeth Ddysgu Ychwanegol arnynt.

Mae Cynllun Datblygu Unigol neu CDU, yn disodli Datganiadau Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), ac mewn rhai achosion Cynlluniau Addysg Unigol. Fe gaiff y cynlluniau hyn eu datblygu gyda’r plentyn neu berson ifanc yn chwarae rhan ganolog wrth gytuno ar eu canlyniadau unigol eu hunain a chynllunio eu darpariaeth.

Mae CDU yn cael eu cyflwyno fesul cam tan fis Awst 2025, pan ddaw pob Datganiad AAA i ben. Bydd cynlluniau’n cael eu hadolygu’n flynyddol o leiaf, a byddant yn cael eu creu gyda’r plentyn neu’r person ifanc, a’u rhieni/gofalwyr neu eiriolwr. Gellir eu hadolygu os yw'r wybodaeth neu'r anghenion yn newid hefyd, ar gais y plentyn, person ifanc neu riant/gofalwr.

Dyluniwyd y CDU hyn i amlinellu ADY plentyn neu berson ifanc, eu dyheadau a thargedau i gyflawni’r rhain. Mae angen CDU ar unrhyw blentyn neu berson ifanc sy’n derbyn Darpariaeth Ddysgu Ychwanegol. Bydd y mwyafrif o’r CDU hyn yn cael eu hysgrifennu a'u cynnal gan ysgolion, serch hynny, mewn achosion cymhleth, efallai bydd ysgolion yn gwneud cais bod yr Awdurdod Lleol yn ystyried anghenion y plentyn neu'r person ifanc. Os canfyddir bod yr anghenion yn gymhleth ac angen mewnbwn arbenigol, efallai bydd yr Awdurdod Lleol yn ysgrifennu ac yna'n cyfeirio'r ysgol i gynnal y cynllun, neu ei gynnal eu hunain.

Gallwch hefyd ofyn i'r ysgol gynnal Ystyriaeth ADY. Cysylltwch â CADY’r ysgol ac mi fyddent yn medru eich helpu i wneud y cais, neu gellir defnyddio’r ffurflen isod a’i rhoi i’r ysgol. Nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen yma, ond dyma’r ffordd hawsaf i roi cymaint o wybodaeth â phosibl i’r ysgol am eich cais.

Gweld mwy:

 

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?