Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cymeradwyaeth Corff o Bersonau


Summary (optional)
start content

Canllawiau Cymru ar gyfer Cymeradwyaeth Corff o Bersonau

O dan Adran 37(3)(b) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc 1963, nid oes angen trwydded ar gyfer perfformiad a roddir o dan drefniadau a wneir gan 'gorff o bersonau' a gymeradwywyd gan yr awdurdod lleol lle mae'r perfformiad yn digwydd, neu o dan rai amgylchiadau eithriadol, gan Lywodraeth Cymru neu'r Ysgrifennydd Gwladol.  

Beth yw BOPA?  

Y peth cyntaf i'w egluro i sefydliadau sy'n gwneud cais am gymeradwyaeth corff o bersonau ac awdurdodau lleol sy'n rhoi BOPA yw na ddylid ystyried BOPA yn ffordd o 'osgoi' y gofyniad am drwydded berfformio. 

Bydd gwneud cais am BOPA a'i rhoi yn lleihau'r baich gweinyddol ar bawb o dan sylw; serch hynny, mae'r un egwyddorion yn berthnasol o ran diogelu'r plentyn a sicrhau bod darpariaeth briodol i'w chael i ddiogelu eu hiechyd ac i sicrhau eu bod yn cael eu trin yn iawn. Mae'n rhaid sicrhau nad yw'r trefniadau diogelu yn gwanhau.  

Mae BOPA, os caiff ei rhoi, yn cael gwared â'r angen i wneud cais am drwydded unigol ar gyfer pob plentyn; fe'i rhoddir i'r sefydliad sy'n gyfrifol am y perfformiad. 

Rhoddir y gymeradwyaeth gan yr awdurdod lleol lle mae'r perfformiad yn digwydd; gall yr awdurdod lleol roi'r gymeradwyaeth hyd yn oed os nad yw'r plant sy'n cymryd rhan yn byw o fewn ei ffiniau.   Y sefydliad sy'n cael ei gymeradwyo, nid y plant h.y. mae'r awdurdod lleol yn cadarnhau bod y grŵp neu'r sefydliad yn grŵp 'addas' neu 'gymeradwy' ac felly mae'n rhaid iddynt fod yn sicr eu bod hwy (yr ALI) wedi cymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y grŵp yn grŵp addas.  

Gellir rhoi BOPA i sefydliad ar gyfer un perfformiad neu ar gyfer cyfres o berfformiadau o fewn cyfnod penodol ar yr amod na wneir unrhyw daliad i'r plentyn nac i unrhyw un arall sy'n gysylltiedig â'r plentyn sy'n cymryd rhan yn y perfformiad ac nad oes angen i'r plentyn fod yn absennol o'r ysgol.   Gweler Adran 7 'Absenoldeb o'r ysgol' am ragor o fanylion.  

Ni ellir trosglwyddo BOPA i sefydliad arall nac i blant unigol sy'n cymryd rhan mewn perfformiad a drefnir gan rywun arall.

Ni ellir rhoi BOPA mewn perthynas â gweithgaredd.

Pwy all ymgeisio?  

Gall unrhyw fath o sefydliad wneud cais am BOPA h.y. grŵp amatur, cwmni proffesiynol, theatr neu gwmni darlledu ar yr amod na wneir taliad (heblaw treuliau) i'r plentyn am gymryd rhan.   Fodd bynnag, bydd gofyn iddynt fodloni rhai meini prawf a dangos bod ganddynt bolisïau a threfniadau diogelu clir, cadarn sydd wedi'u llwyr ymgorffori ar gyfer amddiffyn plant.   Bydd hyn yn llywio penderfyniad yr awdurdod lleol, a'u penderfyniad hwy yw p'un a ddylid rhoi cymeradwyaeth ai peidio.  

Gwneud cais am Drwydded Corff o Bersonau

I wneud cais am drwydded corff o bersonau, bydd angen y dogfennau canlynol arnoch:

  • Ffurflen wedi’i chwblhau’n llawn
  • Polisi Diogelu
  • Asesiad Risg
  • Copïau o drwyddedau pawb a fydd yn gweithredu fel gwarchodwyr/hebryngwyr ar gyfer y perfformiad
  • Rhestr o’r holl oedolion eraill a fydd yn goruchwylio a chopïau o’u tystysgrifau Datgelu a Gwahardd cyfredol
  • Asesiad Risg

Dylid derbyn ceisiadau wedi’u cwblhau o fewn 15 diwrnod gwaith i’r digwyddiad, fodd bynnag, cynghorwn eich bod yn rhoi gymaint o rybudd â phosibl er mwyn osgoi siom.

Cysylltu â ni: 

E-bost: ESWS@conwy.gov.uk 
Rhif ffôn: 01492 575031  

end content