Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Eithriadau


Summary (optional)
start content

Ni fydd angen trwydded ar gyfer rhai mathau o berfformiadau, ond ni fydd yr eithriadau hynny’n berthnasol ond pan na wneir unrhyw daliad i’r (neu ar gyfer) plentyn neu’r plant sy’n cymryd rhan yn y perfformiad (ni waeth pwy sy’n cael y taliad).

Yr achosion hynny yw:

  • perfformiad y mae ysgol yn ei drefnu
  • os yw’r plentyn wedi perfformio ar lai na phedwar o ddiwrnodau yn y chwe mis diwethaf (y Rheol Pedwar Diwrnod)
  • nid oes yr un plentyn yn cael ei dalu ac mae’r trefnwr yn gallu gwneud cais am Gymeradwyaeth Corff o Bersonau

Ysgolion

Efallai na fydd yn ofynnol cael trwydded ar gyfer perfformiad os ydyw: 

a) wedi’i drefnu gan ysgol – sefydliad addysgol sy’n darparu addysg gynradd neu uwchradd, yn hytrach nag ysgol ddawns neu rywle cyffelyb; a

b) bod yr ysgol yn gyfrifol am gynhyrchu’r perfformiad, a allai gynnwys plant o’r ysgol honno neu ysgol arall.

Mae’r blychau isod yn nodi pa amgylchiadau a fyddai’n bodloni’r meini prawf ar gyfer yr eithriad hwn – a pha rai na fyddai.

Pwy sy’n gwneud y trefniadau? 

content

content

content

content

 

Y Rheol Pedwar Diwrnod

Nid oes angen trwydded ar unrhyw blentyn sydd heb berfformio ar fwy na thri o ddiwrnodau yn y chwe mis diwethaf ar gyfer perfformio am un diwrnod arall. Unwaith y mae plentyn wedi perfformio ar bedwar o ddiwrnodau neu fwy mewn cyfnod o chwe mis, mae angen trwydded (oni bai bod eithriad arall yn berthnasol). Mae hynny’n cynnwys unrhyw berfformiad, os codir tâl i’w weld neu beidio, p’un a oedd gan y plentyn drwydded ar gyfer unrhyw un o’r diwrnodau hynny neu bod Cymeradwyaeth Corff o Bersonau’n berthnasol (gweler isod). Bydd angen ‘rhesymau dilys’ dros gredu nad yw’r plentyn wedi perfformio ar fwy na thri o ddiwrnodau yn y chwe mis diwethaf. Llythyr gan riant y plentyn i gadarnhau hynny fyddai’r peth gorau, a dylid hefyd ceisio cyngor gan yr awdurdod trwyddedu. Os oes angen i blentyn fod yn absennol o’r ysgol i gymryd rhan yn y perfformiad yna ni ellir dibynnu ar yr eithriad hwn, a bydd angen trwydded.

Gwneud Cais am Dystysgrif Eithrio

I wneud cais am dystysgrif eithrio bydd angen y dogfennau canlynol arnoch:

  • Ffurflen gais wedi’i chwblhau’n llawn
  • Polisi Diogelu
  • Asesiad Risg
  • Copïau o drwyddedau pawb a fydd yn gweithredu fel gwarchodwyr/hebryngwyr ar gyfer y perfformiad
  • Rhestr o’r holl oedolion eraill a fydd yn goruchwylio a chopïau o’u tystysgrifau Datgelu a Gwahardd cyfredol
  • Asesiad Risg

Dylid cael ceisiadau wedi’u cwblhau o fewn 15 diwrnod gwaith i’r digwyddiad. Fodd bynnag, cynghorwn eich bod yn rhoi gymaint o rybudd â phosibl er mwyn osgoi siom.

Cysylltu â ni: 

E-bost: ESWS@conwy.gov.uk 
Ffôn: 01492 575031  

end content