Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Dogfennau Ymgynghoriad Addysg Cynnig i uno Ysgol y Foryd ac Ysgol Maes Owen.

Cynnig i uno Ysgol y Foryd ac Ysgol Maes Owen.


Summary (optional)
start content

Yn y cyfarfod ar 8 Hydref 2024, rhoddodd Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gymeradwyaeth i fwrw ymlaen ag ymgynghoriad ynglŷn â’r cynnig i uno Ysgol y Foryd ac Ysgol Maes Owen.

Bydd y cyfnod ymgynghori hwn yn para o 21 Hydref 2024 tan 2 Rhagfyr 2024.

Bydd y Cyngor yn ystyried yn ofalus unrhyw sylwadau a wneir yn ysgrifenedig erbyn y dyddiad hwn.

O ganlyniad i’r ymgynghoriad, gallai'r Cyngor benderfynu peidio bwrw ymlaen ymhellach â’r cynnig neu i fwrw ymlaen â’r cynnig neu addasiad ohono. Byddai unrhyw gynnig ffurfiol yn cael ei gyhoeddi ar ffurf hysbysiad statudol cyhoeddus.

Mae gan y Cyngor bwerau i gynnig ehangu neu gau ysgolion. Pe bai’r cynigion yn cael eu cyhoeddi ar ôl y cyfnod ymgynghori hwn, yna byddai cyfnod statudol o 28 diwrnod lle gellir cyflwyno sylwadau pellach a gwrthwynebiadau ffurfiol.

Ni fydd unrhyw ymatebion yn ystod yr Ymgynghoriad yn cael eu hystyried fel gwrthwynebiadau ffurfiol. Er mwyn i ymatebion gael eu hystyried fel gwrthwynebiadau statudol mae’n rhaid eu cyflwyno yn ysgrifenedig neu drwy e-bost o fewn y cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod.

Boed gwrthwynebiadau yn dod i law o fewn y cyfnod statudol ai peidio, bydd y cynnig yn cael ei ystyried gan yr Awdurdod ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu o 28 diwrnod. Disgwylir i Gabinet Conwy benderfynu ar y cyhoeddiad hwn ym mis Ionawr 2025.

Dyddiad cau’r ymgynghoriad: 2 Rhagfyr 2024

Bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn cyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghoriad i’r Cabinet ei ystyried yn ystod Tymor Ysgol yr Hydref.

Sut allaf i wneud sylwadau ar y cynnig?

  • Gallwch lenwi’r holiadur sydd ynghlwm a’i anfon at Dr Lowri Brown, Pennaeth Addysg, Gwasanaethau Addysg, Coed Pella, Bae Colwyn, LL29 7AZ.
  • Yn ysgrifenedig i Dr Lowri Brown, Pennaeth Gwasanaethau Addysg, Coed Pella, Bae Colwyn, LL29 7AZ.
  • Drwy anfon e-bost at school.modernisation@conwy.gov.uk.

Dogfennau

end content