Rydym yn bwriadu ehangu’r ddarpariaeth yng Nghanolfan Addysg Conwy a chynnwys dysgwyr y Cyfnod Sylfaen, ac yn holi’ch barn ynglŷn â hynny. Wedi i’r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr y Cyfnod Sylfaen ddod i ben yn Ysgol Ffordd Dyffryn rydym wedi bod yn cynnig y ddarpariaeth dros dro yn y Ddraig Goch, ein safle Cyfnod Allweddol 2, wrth inni ymgynghori ynghylch trefn y ddarpariaeth yn y tymor hir. Ar sail y ddogfen ymgynghori sydd ynghlwm ceisir barn buddgyfranogwyr ynghylch y trefniadau hirdymor ar gyfer cadw’r ddarpariaeth dan sylw yng Nghanolfan Addysg Conwy.
Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau galw heibio yng Nghanolfan Addysg Conwy fel rhan o’r ymgynghoriad. Y Ddraig Goch, Ffordd Llwynon, Llandudno dydd Llun 16 Ionawr 2023 am 3.30pm a dydd Mercher 18 Ionawr 2023 am 3.30pm.
Os hoffech ymateb i’r ymgynghoriad, anfonwch eich sylwadau ar y ffurfflen ar-lein, neu drwy lythyr neu e-bost i un o’r cyfeiriadau isod erbyn 13:00 ar 27 Ionawr 2023 fan bellaf
Dr Lowri Brown, Pennaeth Gwasanaethau Addysg
Gwasanaethau Addysg
Bwlch Post 1
Conwy
LL30 9GN
E-bost: School.Modernisation@conwy.gov.uk
Tudalen nesaf