3. Cefndir y Cynnig
3.1 Niferoedd disgyblion
Bu canolfan adnoddau’r Cyfnod Sylfaen yn llawn (saith o ddysgwyr) am y rhan helaeth o flwyddyn academaidd 2021-22. Mae’r galw am y ddarpariaeth yn y Cyfnod Sylfaen ar dwf, yn unol â’r cynnydd cyffredinol yn y galw am wasanaethau yng Nghonwy ar gyfer anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Bu holl ysgolion Conwy dan fwy o straen ym mlwyddyn academaidd 2021-22 wrth i’r drefn o adfer wedi’r pandemig roi straen ar blant a phobl ifanc. Mae’r ganolfan adnoddau hon yn darparu lleoliadau addysg arbenigol yn ogystal â chyngor a chyfarwyddyd yn benodol i’r Cyfnod Sylfaen i holl ysgolion Conwy.
3.2 Darpariaeth yr Awdurdod Lleol ar hyn o bryd
Mae canolfan adnoddau’r Cyfnod Sylfaen yn rhan o gontinwwm y Gwasanaeth Cynhwysiad Cymdeithasol o gefnogaeth i ddysgwyr ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol. Mae’r Awdurdod Lleol eisoes wedi sefydlu’r ddarpariaeth benodol isod ar gyfer plant ag anawsterau cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol:
Canolfan Addysg Conwy: Uned Cyfeirio Disgyblion
- Lleoliad addysg arbenigol ar gyfer dysgwyr yng Nghyfnodau Allweddol 2, 3 a 4 a phecynnau llawn-amser wedi’u llunio ar sail anghenion y dysgwyr unigol. Mae Canolfan Addysg Conwy’n uned bortffolio, sy’n golygu fod tri o safleoedd ar wahân wedi’u cofrestru fel ‘Canolfan Addysg Conwy’. Mae gan y ganolfan y lleoedd canlynol i ddysgwyr:
- Cyfnod Allweddol 2: 17 o leoedd
- Cyfnod Allweddol 3: 28 o leoedd
- Cyfnod Allweddol 4: 49 o leoedd
Canolfan Addysg Conwy: Addysg yn y Cartref
- Addysg i’r dysgwyr hynny sy’n methu â chael mynediad at eu darpariaeth addysg bresennol oherwydd eu hanghenion iechyd, a bod salwch arnynt a fydd yn para mwy na phedair wythnos fel y cadarnheir gan ymarferydd meddygol y dysgwyr.
Gwasanaeth Estyn Allan
- Mae’r gwasanaeth estyn allan yn y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 yn darparu cefnogaeth a chyngor i ysgolion yn ogystal â rhaglenni ymyrryd i hybu cynhwysiad dysgwyr mewn ysgolion.
Canolfan Addysg Nant y Bryniau
- Yng Nghonwy y mae’r ddarpariaeth addysg ar gyfer cleifion mewnol Haen 4 y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc o bob Awdurdod Lleol yng ngogledd Cymru. Y gwasanaeth Iechyd sy’n pennu’r meini prawf ar gyfer cael mynediad i’r ddarpariaeth.
Dymunwn ddal ati i sicrhau fod canolfan adnoddau’r Cyfnod Sylfaen yn dal yn rhan o ddarpariaeth y Gwasanaeth Cynhwysiant Cymdeithasol ar gyfer yr holl Gyfnodau Allweddol.
3.3 Rhagolygon niferoedd disgyblion
Rhagwelwn y bydd galw am y ddarpariaeth yn y Cyfnod Sylfaen yn parhau ym mlwyddyn academaidd 2022-23 a thu hwnt, ar sail y ceisiadau am ddarpariaeth ar gyfer anghenion cymdeithasol, emosiynol ac ymddygiadol mewn Cyfnodau Allweddol eraill.
Bu’r ddarpariaeth yn llawn am y rhan helaeth o flwyddyn academaidd 2021-22 a chefnogwyd dysgwyr mewn safleoedd prif ffrwd hefyd gyda rhaglenni gwaith ac ymyriadau penodol. Rhagwelwn y byddai’r dull gweithredu hwn, yn debyg i’r gwasanaeth y mae Canolfan Addysg Conwy’n ei ddarparu ar gyfer Cyfnodau Allweddol 2, 3 a 4, yn parhau er mwyn sicrhau cydbwysedd rhwng y lleoliad arbenigol a darparu cyngor i’r holl ddysgwyr yng Nghonwy.
Tudalen nesaf