Rhagair
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ymateb i’r angen i symud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghonwy. Wrth gynnig symud Canolfan Ymddygiad y Cyfnod Sylfaen mae’n ofynnol cynnal ymgynghoriad statudol yn unol ag Adran 2.3 o God Trefniadaeth Ysgolion 2018.
Yn y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Hydref 2022, penderfynodd y Cabinet gychwyn yr ymgynghoriad ynglŷn â chynnig i symud Canolfan Ymddygiad y Cyfnod Sylfaen. Cynhelir yr ymgynghoriad statudol rhwng 5 Rhagfyr 2022 tan 27 Ionawr 2023 a’r testun yw ‘Symud Canolfan Ymddygiad y Cyfnod Sylfaen i Ganolfan Addysg Conwy: y Ddraig Goch yn barhaol fel bod y ddarpariaeth yn dal ar gael.’
Dymuna Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy roi cyfle ichi fynegi eich barn ar y cynnig a phan ddaw’r cyfnod ymgynghori i ben, fe gyflwynwn adroddiad gerbron Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Mae copi o’r ddogfen hon a phapurau cefndir ar gael ar wefan y Cyngor: https://www.conwy.gov.uk/ymgynghoriadauaddysg
SYLWER – mae’n rhaid anfon unrhyw sylwadau ynghylch y ddogfen ymgynghori statudol i’r Gwasanaethau Addysg erbyn 13:00 ar 27 Ionawr 2023. Gweler y manylion cyswllt yn nes at ddiwedd yr adroddiad.Edrychwn ymlaen at glywed eich barn.
Yn gywir
Dr Lowri Brown
Pennaeth y Gwasanaethau Addysg
Tudalen nesaf