5. Pa ddewisiadau eraill a fu dan sylw?
5.1 Dewis 1 – Gwneud dim
Heb barhau â’r ddarpariaeth a sicrhau ei bod yn symud i rywle arall, ceir pryder na fydd unrhyw ddarpariaeth o gwbl yn y Cyfnod Sylfaen. Ni fyddai’r Awdurdod Lleol yn cyflawni ei ddyletswydd i ddarparu addysg briodol i’r holl ddysgwyr a byddem yn rhoi mwy o straen ar rannau eraill o’r Gwasanaeth o beidio â chynnig ymyriadau cynnar.
5.2 Dewis 2 – Symud y ddarpariaeth ddysgu ychwanegol
Byddai’r Awdurdod Lleol yn gallu cyflawni ei ddyletswyddau statudol yn ddiogel wrth ddarparu addysg briodol, sicrhau gwell canlyniadau hirdymor ar gyfer dysgwyr, a chynnal lleoliadau llwyddiannus a chadarnhaol i blant Conwy yn ysgolion Conwy.
Pe dymuna unrhyw ymgyngoreion gyflwyno unrhyw ddewisiadau posib eraill, dylent wneud hynny drwy lenwi’r ffurflen yn Atodiad A ar ddiwedd y ddogfen hon.
Tudalen nesaf