Bydd y sesiynau agored ar-lein misol hyn yn rhoi cyfle i arweinwyr lleoliadau Blynyddoedd Cynnar, gwarchodwyr plant a staff ofyn cwestiynau am y ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg, Pecyn Gwaith Conwy, Proffiliau Un Tudalen, strategaethau a chynllunio targedau camau bach i ddiwallu anghenion plant.
Cynhelir y sesiwn galw heibio unwaith y mis, ar ddiwrnodau ac amseroedd gwahanol er mwyn cynnig mwy o hyblygrwydd i’r ystod eang o Ddarparwyr Blynyddoedd Cynnar ei mynychu.
Y dyddiadau yw:
- 05/06/24 (5pm to 6pm)
- 19/06/24 (5pm to 6pm)
- 03/07/24 (5pm to 6pm)
- 17/07/24 (5pm to 6pm)
Sylwch nad oes angen archebu lle ymlaen llaw (felly dim ffurflen archebu i'w llenwi).
Bydd e-bost yn cael ei anfon at holl ddarparwyr Conwy gyda dolen Microsoft Teams y diwrnod cynt i'w hatgoffa.
Bydd y Fforwm yn para awr ac yn cadw at reolau cyfrinachedd, Arfer Da a safonau proffesiynol uchel bob amser.