Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Diogelu - hyfforddiant Grŵp B


Summary (optional)
Mae’r cwrs 5 awr hwn yn ymdrin â’r cynnwys sydd ei angen yn dilyn y newidiadau i’r safonau gofynnol cenedlaethol. Mae’n ofynnol i holl staff y Blynyddoedd Cynnar sy’n gweithio mewn lleoliadau gofal plant gael eu hyfforddi i’r lefel ofynnol erbyn mis Tachwedd 2024.
start content

Manylion y cwrs

DytddiadAmser LleoliadHyfforddwrFfi y Cwrs
16/09/24 & 17/09/24 6:30pm tan 9pm Hyfforddiant wyneb yn wyneb, Canolfan Lôn Hen Ysgol, Rhodfa'r Eglwys, Llandudno Non Davies Am ddim
08/10/24 & 09/10/24 6:30pm tan 9pm Hyfforddiant o bell dros y we drwy Zoom Non Davies Am ddim
11/11/24 & 12/11/24 6:30pm tan 9pm Hyfforddiant wyneb yn wyneb, Canolfan Lôn Hen Ysgol, Rhodfa'r Eglwys, Llandudno Non Davies Am ddim
21/11/24 & 22/11/24 6:30pm tan 9pm Hyfforddiant o bell dros y we drwy Zoom Non Davies Am ddim

Nodau ac amcanion y cwrs

Mae angen i staff sy'n gweithio mewn lleoliad gofal plant gwblhau hyfforddiant Grŵp B.

Bydd yn ofynnol i Reolwyr Atebol a Gwarchodwyr Plant a'r rhai sydd â chyfrifoldebau arweiniol gwblhau hyfforddiant Grŵp C, i'w hysbysebu'n fuan.

Bydd y sesiynau Grŵp B yn cynnwys:

  • Deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, codau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol cysylltiedig â diogelu.
  • Sut i weithio mewn modd sy’n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod.
  • Y ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a all arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod.
  • Sut i adrodd, ymateb i, a chofnodi pryderon neu honiadau cysylltiedig â diogelu.
end content