Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Sesiynau galw heibio Swyddog Arweiniol ADY Blynyddoedd Cynnar Conwy


Summary (optional)
Sesiwn ar-lein yn rhoi cyfle i ofyn cwestiynau a chodi materion fel rhan o fforwm gyda’r Swyddog Arweiniol ADY Wendy Gerrard ac eraill a all ymuno o fis i fis. Dewch â'ch paned a'ch cacen ynghyd ag unrhyw gwestiynau, ymholiadau neu bryderon i'r sesiwn amser i siarad hwn. Efallai nad oes gennym yr holl atebion ond gyda'n gilydd byddwn yn dod o hyd i ateb.
start content
Bydd y sesiynau agored ar-lein misol hyn yn rhoi cyfle i arweinwyr lleoliadau Blynyddoedd Cynnar, gwarchodwyr plant a staff ofyn cwestiynau am y ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg, Pecyn Gwaith Conwy, Proffiliau Un Tudalen, strategaethau a chynllunio targedau camau bach i ddiwallu anghenion plant.

Cynhelir y sesiwn galw heibio unwaith y mis, ar ddiwrnodau ac amseroedd gwahanol er mwyn cynnig mwy o hyblygrwydd i’r ystod eang o Ddarparwyr Blynyddoedd Cynnar ei mynychu.

Y dyddiadau yw:
  • 18/09/24  (5:30pm tan 6:30pm)  
  • 09/10/24  (5:30pm tan 6:30pm) 
  • 06/11/24  (5:30pm tan 6:30pm) 
  • 27/11/24  (5:30pm tan 6:30pm) 

Sylwch nad oes angen archebu lle ymlaen llaw (felly dim ffurflen archebu i'w llenwi).

Bydd e-bost yn cael ei anfon at holl ddarparwyr Conwy gyda dolen Microsoft Teams y diwrnod cynt i'w hatgoffa.

Bydd y Fforwm yn para awr ac yn cadw at reolau cyfrinachedd, Arfer Da a safonau proffesiynol uchel bob amser.
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?