Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Diogelu Grŵp C


Summary (optional)

Mae’r cwrs 2 ddiwrnod hwn yn ymdrin â’r cynnwys sydd ei angen yn dilyn y newidiadau i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol Gofal Plant.

Mae’n ofynnol i holl Reolwyr Blynyddoedd Cynnar, Dirprwy Reolwyr, Unigolyn Diogelu Dynodedig, Unigolyn Cyfrifol / Unigolyn Cofrestredig a Gwarchodwyr Plant sy’n gweithio o fewn lleoliadau gofal plant i gael eu hyfforddi i’r lefel ofynnol erbyn Tachwedd 2024.

start content

Manylion y cwrs

Dyddiad Amser  LleoliadHyfforddwr Ffi u cwrs
20 & 27/09/24 (dau ddydd Gwener) 9 - 5pm     Hyfforddiant wyneb yn wynedb, Canolfan Lôn Hen Ysgol, Rhodfa'r Eglwys, Llandudno Non Davies Am ddim
03, 04 & 05/10/24 6 - 9pm  Hyfforddiant wyneb yn wynedb, Canolfan Lôn Hen Ysgol, Rhodfa'r Eglwys, Llandudno Non Davies Am ddim
Seswn Gymraeg
09 & 16/11/24 (dau ddydd Sadwrn)
9 - 5pm Hyfforddiant wyneb yn wynedb, Canolfan Lôn Hen Ysgol, Rhodfa'r Eglwys, Llandudno Non Davies Am ddim

 

Nodau ac amcanion y cwrs

Mae’r cwrs 2 ddiwrnod hwn yn ymdrin â’r cynnwys sydd ei angen yn dilyn y newidiadau i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol Gofal Plant.

Bydd y sesiynau Grŵp C hyn yn cynnwys:

  • Deddfwriaeth, polisïau cenedlaethol, codau ymddygiad ac ymarfer proffesiynol cysylltiedig â diogelu.
  • Sut i weithio mewn modd sy’n diogelu pobl rhag camdriniaeth, niwed ac esgeulustod.
  • Y ffactorau, sefyllfaoedd a gweithredoedd a all arwain neu gyfrannu at gamdriniaeth, niwed neu esgeulustod.
  • Sut i adrodd, ymateb i a chofnodi pryderon neu honiadau cysylltiedig â diogelu.
  • Hyrwyddo diogelu pobl
  • Hyrwyddo ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn / unigolyn
  • Cymryd rhan mewn prosesau diogelu
  • Cefnogi eraill i ddiogelu pobl (ar gyfer y rheiny â chyfrifoldeb goruchwyliol)
  • Gweithio gydag eraill i ddiogelu pobl
  • Cynnal atebolrwydd proffesiynol
  • Safonau sy’n benodol i ymarferwyr sy’n darparu gwasanaethau sylweddol i blant a phobl ifanc.
  • Safonau sy’n benodol i ymarferwyr sy’n darparu gwasanaethau sylweddol i oedolion.
end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?