Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Cymorth Cyntaf Pediatrig Deuddeg Awr a Chymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith


Summary (optional)
Cwrs Cyfun Newydd ar gyfer Swyddog Cymorth Cyntaf eich lleoliad: Cyrsiau 12 awr Cymorth Cyntaf Pediatrig a Chymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle
start content


Mae’r holl ddarparwyr gofal plant yng Nghonwy yn cael y cyfle i fynd i’n cyrsiau Cymorth Cyntaf Pediatrig 12 awr, fodd bynnag mae’r cwrs newydd hwn yn cynnwys gofyniad ychwanegol ar y Swyddog Cymorth Cyntaf i gael y Dystysgrif Cymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle.  Un cwrs, dwy dystysgrif. 

Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn nodi bod “Rhaid i gyflogwyr sicrhau bod gweithwyr yn cael cymorth ar unwaith os ydynt yn mynd yn sâl neu’n cael eu hanafu yn y gwaith.”

 

Mae'r cwrs Cymorth Cyntaf Pediatrig wedi'i ddylunio'n bennaf ar gyfer y rheini sy'n gyfrifol am blant dan 12 oed.  Mae'r hyfforddiant yn 12 awr ac mae'n bodloni'r gofynion sydd eu hangen gan CIW ar gyfer lleoliadau cofrestredig yng Nghymru.

Wrth ddilyn y cwrs hwn byddwch yn:

  • Deall rôl a chyfrifoldebau'r Swyddog Cymorth Cyntaf Pediatrig
  • Gallu rhoi cymorth cyntaf i faban ac i blentyn
  • Deall sut i adnabod arwyddion a symptomau, rhoi cymorth cyntaf brys i faban a phlentyn sydd â chyflwr meddygol cronig neu sy'n mynd yn sâl yn sydyn
  • Deall sut i adnabod arwyddion a symptomau, rhoi cymorth cyntaf mewn argyfwng i faban a phlentyn sydd

Rhagofalon COVID-19:

  • Gallu rhoi CPR yn ddiogel heb orfod dadebru o geg i geg gan ddefnyddio Masg Falf Bag (BVM)
  • Cael gwared ar wastraff halogedig yn ddiogel

 

Dyma elfennau ychwanegol yn ymwneud â Chymorth Cyntaf Brys yn y Gweithle sydd eu hangen i’ch cymhwyso ar gyfer y dystysgrif ychwanegol:

  • Deall sut mae’r galon yn gweithio
  • Gwahaniaeth rhwng angina a thrawiad ar y galon
  • Hanes, arwyddion, symptomau a thriniaeth ar gyfer pwl o angina.Hanes, arwyddion, symptomau a thriniaeth ar gyfer trawiad ar y galon (hyd at 30 munud)
  • Deall beth yw strôc yn yr ymennydd
  • Y 2 wahanol fath o strôc
  • Hanes, arwyddion, symptomau a thriniaeth ar gyfer strôc (hyd at 30 munud)

 

PMae’n rhaid i’r cyfranogwyr fod yn abl yn gorfforol i wneud yr elfen adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR).  Os bydd cyfranogwr yn methu cyflawni hyn, o dan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ni fydd yr elfen yn cyfrif tuag at gymhwyso fel swyddog cymorth cyntaf ar y safle, gan na fydd y safonau’n cyrraedd yr hyn a ddisgwylir o swyddog cymorth cyntaf, ac ni fydd yn derbyn tystysgrif.

Y gost am y ddau ddiwrnod yw £75.

Mae'n rhaid talu wrth archebu lle.  Am fwy o wybodaeth ynglŷn â sut i dalu ffoniwch 01492 577862.

Sylwer hefyd y bydd cost ychwanegol o £20 os byddwch yn absennol neu'n canslo'n hwyr.

 

DyddiadAmserLleoliadHyfforddwrFfi'r Cwrs
23/09/2024 & 24/09/2024 9.15 yb - 4.15 yp Coed Pella, Bae Colwyn CCBC, Gwasanaethau Hamdden £75
11/11/2024 & 12/11/2024 9.15 yb - 4.15 yp Coed Pella, Bae Colwyn CCBC, Gwasanaethau Hamdden £75
21/11/2024 & 22/11/2024 9.15 yb - 4.15 yp Coed Pella, Bae Colwyn CCBC, Gwasanaethau Hamdden £75
05/12/2024, 06/12/2024 & 07/12/2024 05/12 & 06/12 (6yp-9yp)
07/12 (9yb - 4.15yp)
Coed Pella, Bae Colwyn CCBC, Gwasanaethau Hamdden £75
27/01/2025 & 28/01/2025 9.15 yb - 4.15 yp Coed Pella, Bae Colwyn CCBC, Gwasanaethau Hamdden £75
06/02/2025, 07/02/2025 & 08/02/2025 06/02 & 07/02
(6yp-9yp)
08/02 (9yb-4.15yp)
Coed Pella, Bae Colwyn CCBC, Gwasanaethau Hamdden £75
08/05/2025, 09/05/2025 & 10/05/2025 08/05 & 09/05
(6yp-9yp)
10/05 (9yb-4.15yp)
Coed Pella, Bae Colwyn CCBC, Gwasanaethau Hamdden £75
09/06/2025 & 10/06/2025 9.15 yb - 4.15 yp Coed Pella, Bae Colwyn CCBC, Gwasanaethau Hamdden £75
25/09/2025, 26/09/2025 & 27/09/2025 25/09 & 26/09
(6yp-9yp)
27/09 (9yb-4.15yp)
Coed Pella, Bae Colwyn CCBC, Gwasanaethau Hamdden £75
13/10/2025 & 14/10/2025 9.15 yb - 4.15 yp Coed Pella, Bae Colwyn CCBC, Gwasanaethau Hamdden £75
13/11/2025, 14/11/2025 & 15/11/2025 13/11 & 14/11
(6yp-9yp)
15/11 (9yb-4.15yp)
Coed Pella, Bae Colwyn CCBC, Gwasanaethau Hamdden £75
02/02/2025 & 03/02/2025 9.15 yb - 4.15 yp Coed Pella, Bae Colwyn CCBC, Gwasanaethau Hamdden £75

 

end content
page rating

page rating - did you find what you were looking for?