Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Derbyniadau Ysgolion Gwneud cais am Meithrin, Derbyn ac Iau (Bl 3) ar gyfer Medi 2025-2026

Gwneud cais am Meithrin, Derbyn ac Iau (Bl 3) ar gyfer Medi 2025-2026


Summary (optional)
Gwybodaeth derbyniadau a ceisiadau ysgolion cynradd
start content

Er gwybodaeth: Mae ond yn anghenrheidiol i wneud cais i ysgol iau (Bl 3 Medi 2025) os ydi’r safle ysgol yn wahanol i’r ysgol babanod.

Gallwch hefyd lawrlwytho fersiwn y gellir ei hargraffu o'r ffurflenni trwy glicio yma.

Y dyddiadau cau ar gyfer pob cais yw:

  • Cais Meithrin: 17 Chwefror 2025
  • Cais Derbyn: 18 Tachwedd 2024
  • Cais Iau: 18 Tachwedd 2024


Byddwch ym ymwybodol nad yw derbyn i ddosbarth meithrin yn gwarantu derbyn i’r dosbarth derbyn. Bydd yn rhaid i chi ail-ymgeisio a cwblhau cais am le i’r dosbarth derbyn y flwyddyn wedyn.

Byddwch yn cael gohebiaeth ynglŷn â'ch cais am le yn yr ysgol erbyn y dyddiadau isod:

  • Cais Meithrin: 6 Mai 2025
  • Cais Derbyn: 16 Ebrill 2025
  • Cais Iau: 16 Ebrill 2025

Ceisiadau hwyr:

Bydd lleoedd yn cael eu dyrannu i geisiadau a geir erbyn y dyddiad cau yn y lle cyntaf.

Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried tan ar ôl y rhai a geir erbyn y dyddiad cau, oni bai eich bod yn gallu cyfiawnhau'r rheswm dros yr oedi wrth ddychwelyd eich ffurflen. Mae hyn yn unol â'r meini prawf a gyhoeddwyd pan fo mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael. Gall ceisiadau hwyr heb reswm da olygu siom os yw eich ysgol ddewisol yn llawn.

Gwybodaeth Bwysig:

Nodwch os byddwch yn ceisio am le yn unrhyw un o’r ysgolion canlynol:

  • Ysgol Bendigaid William Davies
  • Ysgol Bodafon
  • Ysgol Pen y Bryn
  • Ysgol San Sior
  • Ysgol Sant Joseff
  • Ysgol Y Plas

Yn ogystal â llenwi’r Ffurflen Derbyniadau Ysgolion, bydd angen i chi gysylltu â’r ysgol yn uniongyrchol rydych chi yn ei ffafrio i gael ffurflen gais. o’r ysgol.

Gwybodaeth defnyddiol ynghlyn a derbyniadau:

 

Dyddiadau Pwysig am Ceisiadau Meithrin:

  • Erbyn 23 Medi 2024:
    • Ceisiadau ar-lein yn agor
    • Mae ffurflenni y gellir eu hargraffu ar gael gellir hefyd bostio copïcaled  drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Addysg ar 01492 575031
  • Erbyn 18 Chwefror 2025:
    • Dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau Meithrin
  • Erbyn 6 Mai 2025:
    • Cyhoeddi llythyr yn cynnig neu gwrthod lle

Dyddiadau Pwysig am Ceisiadau Derbyn ac Iau:

  • Erbyn 23 Medi 2024:
    • Ceisiadau ar-lein yn agor
    • Mae ffurflenni y gellir eu hargraffu ar gael gellir postio copï caled  drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Addysg ar 01492 575031
  • Erbyn 18 Tachwedd 2024:
    • Dyddiad olaf ar gyfer ceisiadau Derbyn ac Iau
  • Erbyn 16 Ebrill 2025:
    • Cyhoeddi llythyr yn cynnig neu wrthod lle

end content