Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Addysg, Plant a Phobl Ifanc Derbyniadau Ysgolion Gwneud cais am le mewn Ysgol Uwchradd (Blwyddyn 7) ar gyfer Medi 2025 - 2026

Gwneud cais am le mewn Ysgol Uwchradd (Blwyddyn 7) ar gyfer Medi 2025 - 2026


Summary (optional)
Gwybodaeth am dderbyniadau i ysgolion uwchradd a gwneud ceisiadau
start content
Cyflwynwch eich ffurflen gais erbyn 4 Tachwedd 2024.
Fe gewch chi wybodaeth am eich cais am le yn yr ysgol erbyn 3 Mawrth 2025.


Fe allwch chi hefyd lawrlwytho fersiwn o'r ffurflenni y gellir eu hargraffu drwy glicio yma.

Ceisiadau hwyr

Byddwn yn dyrannu lleoedd yn gyntaf i geisiadau a dderbyniwn erbyn y dyddiad cau. Ni fydd ceisiadau hwyr yn cael eu prosesu nes ein bod wedi prosesu pob cais ar amser, oni bai eich bod yn gallu cyfiawnhau'r oedi.

Gwybodaeth Bwysig

Os ydych chi'n gwneud cais am le yn:

  • Ysgol Bryn Elian,
  • Ysgol Eirias, neu
  • Ysgol Emrys ap Iwan

yn ogystal â llenwi’r Ffurflen Derbyniadau i Ysgolion, bydd angen i chi hefyd gysylltu â’ch dewis o ysgol i gael ffurflen gais ar wahân. Efallai y bydd y ffurflen hon hefyd ar gael gan ysgol bresennol eich plentyn.


Gwybodaeth ddefnyddiol ynglŷn a derbyniadau 

Dyddiadau Pwysig

Erbyn 2 Medi 2024

  • Bydd ffurflenni cais ysgolion yn cael eu cyhoeddi a cheisiadau ar-lein yn agor
  • Mae ffurflenni y gellir eu hargraffu ar gael uchod a gellir postio copïau caled ar gais, drwy gysylltu â'r Gwasanaethau Addysg ar 01492 575031
  • Mae llyfrynnau ar sut i wneud cais ar gael uchod

Erbyn 4 Tachwedd 2024

  • Dyddiad cau ar gyfer pob cais i Ysgol Uwchradd

Erbyn 3 Mawrth 2025

  • Bydd llythyrau yn cynnig neu'n gwrthod lle yn cael eu hanfon allan
end content