Hwb ar gyfer Llywodraethwyr Ysgol
Yng Nghonwy, y polisi yw bod Llywodraethwyr yn derbyn negeseuon e-bost gan yr Awdurdod Lleol trwy rwydwaith Hwb Llywodraeth Cymru yn unig. Hwb yw’r platfform digidol i ddysgu ac addysgu yng Nghymru. Mae’n rhoi mynediad i ddefnyddwyr i ystod o adnoddau dwyieithog a digidol wedi’u hariannu’n ganolog. Mae Hwb yn rhoi mynediad at:
- y Cwricwlwm i Gymru 2022
- y Cwricwlwm i Gymru 2008
- gwybodaeth broffesiynol am ddysgu
- miloedd o adnoddau dwyieithog
- gwybodaeth am ddiogelwch ar-lein
Fel Llywodraethwr, gall eich clerc roi cyfrif Hwb i chi a fydd hefyd yn caniatáu i chi ddefnyddio “Microsoft Office 365” a “Google for Education” am ddim. Mae manylion am weld eich negeseuon e-bost ar Hwb i'w gweld yma.
Mae Hwb yn cael ei ddefnyddio gan Gonwy i storio ystod o ddogfennau a pholisïau i helpu ysgolion i greu eu hadnoddau eu hunain ar eu Mewnrwyd Addysg. Yma, hefyd, gall Llywodraethwyr gael mynediad i Hwb Llywodraethwyr Conwy. Mae manylion am ddefnyddio Hwb Conwy i’w gweld yma.
Bydd angen mewngofnodi gydag enw defnyddiwr a chyfrinair – cysylltwch â’ch clerc os nad yw'r manylion yma gennych.