Mae gan bob ysgol gorff llywodraethu sy’n chwarae rhan bwysig ym mywyd yr ysgol.
Mae Cyrff Llywodraethu yn cynnwys pobl leol a fydd yn cynnwys rhieni; unigolion a benodir gan yr Awdurdod Lleol, athrawon, staff, a’r pennaeth a gall gynnwys cynrychiolwyr o’r gymuned leol a chynrychiolwyr o’r eglwys. Bydd nifer yr aelodau yn dibynnu ar faint yr ysgol.
Mae gan y corf llywodraethu gyfrifoldeb cyffredinol am reolaeth strategol, sy’n golygu:
- Gosod nodau ac amcanion ar gyfer yr ysgol;
- Mabwysiadu polisïau i gyflawni’r nodau ac amcanion hynny;
- Gosod targedau i gyflawni’r nodau ac amcanion hynny;
- Adolygu cynnydd tuag at gyflawni’r nodau ac amcanion hynny.
Mae gan gyrff amryw o ddyletswyddau a phwerau mewn deddfwriaeth:
- Arwain yr ysgol gyda’r bwriad o hyrwyddo safonau addysgol ac ymddygiad uchel;
- Gosod targedau ysgol priodol i gynnydd disgyblion yng Nghyfnodau 2, 3 a 4;
- Cymryd cyfrifoldeb cyffredinol am arweiniad yr ysgol - yn ymarferol golyga hyn llunio polisïau, a sut dylai’r ysgol gael ei rhedeg yn nhermau strategol cyffredinol;
- Rheoli cyllideb yr ysgol, penderfynu ar y cyflenwad staff a gwneud penderfyniadau ar gyflog staff yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (STPCD);
- Sicrhau bod y cwricwlwm ar gyfer yr ysgol yn gytbwys gyda sail eang, yn arbennig o ran dysgu’r Cwricwlwm Cenedlaethol ac addysg grefyddol;
- Darparu adroddiad i rieni bob blwyddyn sy’n cynnwys gwybodaeth am asesiadau’r Cwricwlwm Cenedlaethol a chanlyniadau arholiadau.
- Penodi’r pennaeth a’r dirprwy (gyda chyngor gan yr ALl, ac yn achos ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol ac ysgolion a reolir yn wirfoddol yr Esgobaeth) a staff arall, yn ogystal â rheoli ymddygiad a disgyblaeth staff; ac
- Llunio cynllun gweithredu yn dilyn arolwg Estyn.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu llawer iawn o wybodaeth ar bob agwedd o gyrff llywodraethu ysgolion a gellir gweld y wybodaeth ar eu gwefan.