Mae ysgol gynradd dwy-ffrwd newydd £11.49 miliwn ar gyfer cymuned Cyffordd Llandudno yn rhan o Raglen Foderneiddio Ysgolion Cynradd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, ar y cyd â Rhaglen Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Bu Read Construction yn llwyddiannus wrth gael y contract ar gyfer adeiladu’r ysgol newydd yng Nghyffordd Llandudno.
Bydd lle i 432 o ddisgyblion llawn amser a 60 disgybl meithrin rhan amser yn ysgol Awel y Mynydd. Bydd disgyblion yn cael eu haddysgu un ai trwy gwricwlwm Cymraeg Iaith Gyntaf neu Gymraeg Ail Iaith/Dwyieithog.
Digwyddiadau a Newyddion Diweddaraf
Dogfennau Statudol