Bydd ailddatblygiad safle blaenorol Ysgol Tan y Marian yn dod a disgyblion o Ysgol Babanod Penmaenrhos ac Ysgol Iau Tan y Marian ynghyd yn Ysgol Sŵn y Don a fydd yn darparu un ysgol gynradd gyda lle i 150.
Penodwyd Dawnus Construction Ltd gan Gabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ym Mehefin 2015 i wneud y gwaith.
Bydd y prosiect yn cynnwys dosbarthiadau newydd ar gyfer disgyblion cyfnod sylfaen, ailstrwythuro ac adnewyddu safle’r ysgol gyfan. Bydd yr ysgol newydd yn darparu ardaloedd addysgu galwedigaethol newydd ynghyd â meysydd chwaraeon aml-ddefnydd ac ardaloedd cynefin a hamdden.
Darperir arian ar gyfer y prosiect ar sail 50/50 gan Raglen Ysgolion 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru a gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Digwyddiadau a Newyddion Diweddaraf
Dogfennau Statudol