Rydym am annog trigolion ac ymwelwyr i beidio â gollwng sbwriel ac i gadw'r ardal yn lân.
Beth ddylech chi ei wneud?
- Rhoi eich sbwriel mewn bin
- Os nad oes bin, cadwch eich gwastraff i'w daflu yn ddiweddarach
Troseddau taflu sbwriel
Gallai hyn fod yn unrhyw beth sy'n effeithio ar yr amgylchedd.Mae troseddau fel gollwng gwm cnoi, pecynnau bwyd cyflym a papurau fferins yn cael eu hystyried fel taflu sbwriel.Mae taflu stwmp sigarét i lawr draen hefyd yn taflu sbwriel (mae'n anghyfreithlon ac yn llygru'r dyfrffyrdd) fel ag y mae taflu sbwriel allan o gar.
Nid yw hi'n ofynnol bod arwyddion wedi'u gosod yn eich hysbysu ei bod yn drosedd i ollwng sbwriel.
Y gosb
Bydd unrhyw un sy'n cael eu dal yn gollwng sbwriel yn derbyn Hysbysiad Cosb Benodedig o £75 yn y lle cyntaf. Os na chaiff hwn ei dalu bydd y mater yn cael ei gyfeirio at y Llys Ynadon.Os yn euog o daflu sbwriel gellir rhoi dirwy o hyd at £2500.