Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Tai Cartrefi Gwag Mae Cyngor Conwy bellach yn cymryd rhan yn y Grant Cartrefi Gwas Cenedlaethol

Mae Cyngor Conwy bellach yn cymryd rhan yn y Grant Cartrefi Gwas Cenedlaethol


Summary (optional)
start content
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r cynllun hwn ar gyfer eiddo sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy a rhaid dangos tystiolaeth drwy gofnodion Treth y Cyngor.  Mae’r grant ar gael dim ond ar gyfer perchnogion sy’n bwriadu byw yn yr eiddo eu hunain unwaith y bydd gwaith ailwampio wedi’i gwblhau ac un o amodau’r grant yw bod yn rhaid iddyn nhw fyw yno am 5 mlynedd.

Bydd y grantiau yn symiau o rhwng £1,000 a £25,000 a gellir eu defnyddio dim ond ar gyfer gwaith trwsio y mae’r awdurdod lleol wedi’i nodi fel gwaith angenrheidiol (ar adeg yr ymweliad cychwynnol) i wneud yr eiddo’n ddiogel, ac ar gyfer gwaith gwella effeithlonrwydd ynni (ond nid ar gyfer gwaith effeithlonrwydd ynni yn unig).

Mae’n rhaid i’r perchennog hefyd gyfrannu at gost y gwaith. Bydd grantiau’n cael eu diogelu drwy Bridiant Cyfreithiol gyda’r Gofrestrfa Tir a bydd unrhyw fenthyciwr gyda phridiant ar yr eiddo eisoes felly’n gorfod rhoi ei ganiatâd i gymryd Pridiant arall. Bydd angen ystyried swm yr ecwiti yn yr eiddo ar adeg cofrestru’r Pridiant.

Gweler yr atebion i rai o’r cwestiynau cyffredin i ddarganfod mwy am y cynllun a chliciwch ar y ddolen ganlynol i wneud cais ar gyfer ymuno – Grantiau Tai | Grant Tai Gwag Cenedlaethol Cymru.
end content