Mae’r canlynol yn enghreifftiau o'r sylwadau a wnaed gan yr ymatebwyr:
- Mae’r strategaeth yn mynd yn y cyfeiriad cywir yn gyffredinol, ond dylid canolbwyntio fwy ar gamau gorfodi pan mae eiddo mewn cyflwr gwael
- Dylai’r Cyngor flaenoriaethu rhoi ail fywyd i eiddo gwag i'w defnyddio eto, a fydd yn bodloni anghenion aelwydydd digartref a’r sawl gydag anghenion arbenigol (addasiadau, er enghraifft)
- Dylid defnyddio mwy o adnoddau i fynd i’r afael ag eiddo gwag, a bydd hyn yn arwain at ganlyniadau gwell
- Dylid gwneud mwy i roi ail ddefnydd i eiddo gwag er mwyn lleihau’r angen i adeiladu tai newydd
Cyfeiriodd rhai ymatebwyr at y Premiwm Treth y Cyngor o 25% ar ail gartrefi a chartrefi sy’n wag yn yr hirdymor, gyda barn amrywiol ar yr effaith mae hyn yn ei gael ar roi ail ddefnydd i eiddo gwag.
Y thema gyson a ddaeth o sawl ymateb i'r ymgynghoriad oedd bod angen i’r Cyngor gynyddu ei weithgarwch o ran gorfodaeth ar eiddo gwag. Dyma rhai o'r sylwadau:
- Dylid cael polisi 'dim goddefgarwch' ar eiddo gwag, yn enwedig y rhai sydd mewn cyflwr gwael, ac sy'n niweidio eiddo cyfagos
- Dylai’r Cyngor wneud defnydd gwell o bwerau prynu gorfodol i roi ail ddefnydd i eiddo gwag
- Dylid gwneud mwy o ddefnydd o bwerau gorfodi sydd eisoes yn bodoli i fynd i’r afael ag eiddo gwag
Hoffwn ddiolch yn fawr i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad am eu mewnbwn adeiladol. Defnyddiwyd y wybodaeth i nodi drafft terfynol y strategaeth, y cafodd ei chymeradwyo yn 2019.
Bydd y Strategaeth Cartrefi Gwag dan adolygiad cyfnodol a bydd ymarfer ymgynghori pellach yn cael ei gynnal bob tro er mwyn sicrhau ei bod yn cynrychioli barn preswylwyr a pherchnogion eiddo gwag ar beth sy'n gweithio, bell y gellir ei wella a beth y dylai ein blaenoriaethau fod.
I weld y strategaeth cartrefi gwag, cliciwch y dolen isod:
Strategaeth Tai Gwag