Y gwasanaeth rydym ni’n ei ddarparu
- Rydym ni’n darparu cyngor ar sut y gallwch chi drawsnewid eiddo gwag yn gartref.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni
Byddwn yn:
- Archwilio’r eiddo efo chi lle bo hynny’n briodol. Byddwn yn trefnu apwyntiad ac yn cyrraedd ar amser
- Darparu cyngor a chyfarwyddyd ar grantiau a benthyciadau sydd ar gael i’ch helpu chi ailwampio’r eiddo er mwyn iddo gyrraedd safon benodol
- Eich cynghori am ba mor hir mae’r eiddo wedi bod yn wag, er enghraifft, fel y gallwch drafod â’ch contractwr a fydd y gwaith ailwneud yn denu TAW is/dim TAW, neu a yw’r eiddo yn gymwys i gael grant neu fenthyciad ai peidio
- Rhoi gwybodaeth am y dewisiadau rheoli eiddo sydd ar gael i chi os nad ydych chi’n dymuno rheoli’r eiddo pan fydd yn barod i gael ei ddefnyddio
- Darparu cyngor ar sut i werthu’r eiddo
- Darparu cyngor ar sut i rentu’r eiddo
- Darparu gwybodaeth am gyfrifoldebau bod yn Landlord
- Cynnig cymorth arall a all fod arnoch ei angen i ddod a’r eiddo yn ôl i ddefnydd.
Beth sydd angen i chi ei wneud
- Rhoi gwybod i ni am unrhyw broblem rydych chi’n ei chael wrth geisio trawsnewid eich eiddo gwag yn gartref
- Rhoi gwybod i ni beth hoffech chi ei wneud gyda’r eiddo unwaith mae’n barod
- Rhoi adborth i ni ar ein gwasanaeth.
Tudalen nesaf: Cyfleoedd ariannu
Tudalen flaenorol: Siarter cwsmeriaid