Y gwasanaeth rydym ni'n ddarparu
- Byddwn yn cynnig benthyciadau a grantiau (pan fo cyllid ar gael) i helpu pobl droi eiddo gwag yn gartrefi.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni
Byddwn yn:
- Archwilio’r eiddo efo chi lle bo hynny’n briodol, ac yn eich cynghori ynghylch a ydych chi’n gymwys i dderbyn benthyciad neu grant i drawsnewid eiddo gwag yn gartref. Byddwn yn trefnu apwyntiad ac yn cyrraedd ar amser
- Egluro telerau benthyciadau a grantiau yn glir
- Rhoi cyfle i chi ofyn cwestiynau os oes angen
- Rhoi gwybod i chi am fenthyciadau a grantiau eraill sydd ar gael gan adrannau neu sefydliadau eraill i’ch helpu chi drawsnewid eiddo gwag yn gartref.
Beth sydd angen i chi ei wneud
- Rhoi gwybod i ni am unrhyw broblem rydych chi’n ei chael wrth geisio trawsnewid eiddo gwag yn gartref
- Rhoi gwybod i ni beth hoffech chi ei wneud gyda’r eiddo unwaith mae’n barod
- Rhoi unrhyw wybodaeth neu ddogfennau perthnasol efallai byddwn yn gofyn amdanynt
- Rhoi adborth i ni ar ein gwasanaeth.
Tudalen nesaf: Delio gydag eiddo gwag allai achosi problemau
Tudalen flaenorol: Perchnogion eiddo gwag