Y gwasanaeth rydym ni’n ei ddarparu
- Rydym ni’n delio gyda chwynion am eiddo gwag allai achosi problemau yn Sir Conwy.
Beth allwch chi ei ddisgwyl gennym ni
Byddwn yn:
- Archwilio’r eiddo sy’n destun cwyn
- Cysylltu â pherchennog yr eiddo i drafod yr eiddo a chymryd camau i geisio sicrhau bod yr eiddo’n cael ei ddefnyddio unwaith eto
- Ceisio olrhain y perchennog os nad yw’n hysbys ble maent
- Gweithio gyda thimau gorfodi Cyngor Conwy i drafod y dewisiadau sydd ar gael os ydi’r eiddo problemus yn cael effaith ar eiddo rhywun arall
- Gweithio gyda’r perchennog i geisio sicrhau bod yr eiddo gwag yn cael ei drawsnewid yn gartref
- Rhoi diweddariad ichi lle bo hynny’n bosib'.
Beth mae angen i chi ei wneud
- Darparu cymaint o wybodaeth a phosib' pan fyddwch chi’n rhoi gwybod i ni am yr eiddo
- Rhoi adborth i ni ar ein gwasanaeth.
Tudalen nesaf: Fersiwn y gellir ei lawrlwytho a'i hargraffu
Tudalen flaenorol: Cyfloedd ariannu