Tai Cymdeithasol yw tai rhent sydd ar gael i bobl sy'n derbyn incwm isel neu bobl ag anghenion penodol. Dyrennir tai ar sail anghenion a chysylltiadau â’r ardal leol. Mae Cynghorau a Chymdeithasau Tai’n gallu darparu tai cymdeithasol. Mae’n rhaid bod y Cyngor yn gweithredu cynllun dyrannu sy’n rhoi blaenoriaeth i’r rhai hynny sydd fwyaf mewn angen.
Nid oes gan Gyngor Conwy stoc o dai ei hun mwyach. Mae hen dai Cyngor Conwy bellach o dan reolaeth a pherchnogaeth cymdeithas dai Cartrefi Conwy.
Darperir tai cymdeithasol yng Nghonwy hefyd gan Gartrefi Cymunedol Gwynedd; Cymdeithas Tai Clwyd Alyn; Cymdeithas Tai Tŷ Glas, rhan o Grŵp Pennaf; Grŵp Cynefin a Thai Gogledd Cymru; a Chymdeithas Tai Wales and West.
Nid oes digon o dai cymdeithasol ar gael i ateb y galw. I’r rhan helaeth o bobl sy’n gwneud cais, ni fydd modd cael tŷ cymdeithasol ar unwaith.
Gofynnir i ymgeiswyr wneud un cais yn unig a gaiff ei ystyried gan bob darparwr tai cymdeithasol yn yr ardaloedd o'u dewis. Mae’r polisi dyrannu’r un fath yng Nghonwy, Sir Ddinbych a Sir y Fflint.
Gellir gwneud cais dros y ffôn neu'n bersonol gyda Datrysiadau Tai Conwy. Nid oes raid llenwi ffurflen gais.