Beth yw tai canolradd?
Mae tai canolradd yn helpu pobl gael tai fforddiadwy pan nad oes modd iddynt ddod o hyd i’r hyn sydd ei angen arnynt yn sector preifat..
Am fod gan aelwydydd wahanol amgylchiadau a lefelau incwm amrywiol, mae cynlluniau tai fforddiadwy yn cynnig amrediad o ddewisiadau.
Mae yna ddau fath o dŷ canolradd ar gael:
Tai rhent canolradd
Landlord Cymdeithasol Cofrestredig sy’n berchen ar, ac sy’n gosod tai rhent canolradd. Caiff y tai eu rheoli a’u cynnal yn yr un modd â thai rhent cymdeithasol, ond gellir codi rhent uwch (hyd at 80% o rent y farchnad agored).
Mae dewis rhent canolradd ar gyfer aelwydydd sydd ag incwm rhwng £16,000 a £45,000 ac na allant fforddio eiddo ar y farchnad agored. Nid oed rhaid I aelwydydd fod mewn cyflogaeth.
Perchnogaeth Tai Canolradd
Mae nifer o wahanol fathau o gynlluniau perchnogaeth tai canolradd ar gael os ydych chi’n dymuno berchen ar eich tŷ eich hun. Ewch i wefan Tai Teg am ragor o wybodaeth ar y math o gynlluniau tai canolradd sydd ar gael.
Ydych chi’n gymwys?
I ddarganfod a ydych chi’n gymwys i wneud cais am berchnogaeth tai canolradd, ewch i wefan Tai Teg.
Gwneud cais am dŷ canolradd
Os ydych chi eisiau gwneud cais am dŷ canolradd, mae’n rhaid i chi gofrestru i fod ar ein cofrestr tai fforddiadwy.
Cyflenwad tai fforddiadwy
Mae cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yn un o flaenoriaethau allweddol y Cyngor. Rydym am i bobl yng Nghonwy gael mynediad at lety fforddiadwy ac addas o safon uchel sy’n gwella safon eu bywydau.
Rydym yn helpu i ddarparu tai fforddiadwy drwy:
- Rheoli cynllun datblygu rhaglen tai fforddiadwy Conwy
- Gweithio gyda’r Gwasanaeth Cynllunio i sicrhau bod cartrefi fforddiadwy yn rhan o ddatblygiadau newydd
- Cyflenwi llety / lleiniau i sipsiwn a theithwyr mewn lleoliadau priodol
Sut gwyddom ni beth yw’r angen am dai fforddiadwy?
Rydym wedi cynnal ‘Asesiad o’r Farchnad Dai Leol’ sy’n ein helpu i ddeall yr angen am dai yn lleol. Rhoddodd yr asesiad y wybodaeth i ni ddatblygu ein Strategaeth Tai Lleol, sy’n nodi ein gweledigaeth ar gyfer mynd i’r afael â materion yn ymwneud â thai yng Nghonwy dros y pum mlynedd nesaf.