Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Prosbectws Tai Lleol Conwy


Summary (optional)
start content

Gweledigaeth Strategaeth Tai Lleol Conwy 2018 yw: ‘Mae gan bobl yng Nghonwy fynediad at lety fforddiadwy, priodol ac o safon dda sy’n gwella ansawdd eu bywydau’, ac er mwyn cyflawni hyn, mae’n bwysig bod y cartrefi cywir yn cael eu darparu yn y llefydd cywir ar yr amser cywir.

Lluniwyd Prosbectws Tai Lleol Conwy er mwyn darparu’r wybodaeth sydd ei hangen ar Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a budd-ddeiliaid eraill i wneud penderfyniadau gwybodus am ble i chwilio am dir ac eiddo ar gyfer darparu tai fforddiadwy newydd.

Mae’r prosbectws yn darparu crynodeb o’r galw am dai fforddiadwy yng Nghonwy a’r blaenoriaethau tai strategol ar gyfer y 12 mis nesaf. I gael rhagor o wybodaeth am gyllid neu geisiadau a amlygwyd yn yr adroddiad, cysylltwch â strategaethtai@conwy.gov.uk.

Dogfennau

end content