Mae’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol yn hysbysu’r blaenoriaethau tai strategol a gellir ei ddefnyddio fel adnodd i drafod darpariaethau tai fforddiadwy wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio a dyrannu’r Grant Tai Cymdeithasol i helpu i ddarparu tai fforddiadwy.
Mae'n rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gynnal Asesiad o’r Farchnad Dai Leol. Bob pum mlynedd, disgwylir i awdurdodau lleol ailysgrifennu eu hasesiad yn ogystal â’i adnewyddu unwaith yn ystod y cyfnod hwnnw (rhwng yr ail a’r drydedd flwyddyn).
Caiff yr asesiad ei baratoi yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru ar gynnal asesiadau o'r farchnad dai leol (2022).
Mae’r asesiad hwn (2022-2037) wedi nodi angen blynyddol am dai o 810 ar gyfer y pum mlynedd gyntaf (2022-2027). Mae hynny’n cynnwys:
- 452 o unedau rhent cymdeithasol
- 242 o unedau perchentyaeth cost isel a rhent canolradd
- 116 o unedau ar y farchnad agored
Ar gyfer y deng mlynedd sy’n weddill (2028-2037) mae’r asesiad hwn wedi nodi angen blynyddol am dai o 183. Mae hynny’n cynnwys:
- 47 o unedau rhent cymdeithasol
- 20 o unedau perchentyaeth cost isel a rhent canolradd
- 116 o unedau ar y farchnad agored
Asesiad o Farchnad Dai Leol Conwy 2022-2037
Asesiad o Farchnad Dai Leol Conwy 2022-2037 Crynodeb Gweithredol