Pam dod yma?
Mae’r Glyn yn Warchodfa Natur Leol a choetir hynafol. Mae’r llwybrau coediog drwy’r warchodfa’n dilyn hynt yr Afon Colwyn i ganol Hen Golwyn.
Mae llawer o bobl leol yn mynd i’r Glyn i gael blas ar natur a mwynhau heddwch y lle.
Mae’r dyffryn o’i amgylch a’r gorchudd coed trwchus yn cynnig taith gerdded fer a chysgodol ar hyd yr afon gyda digon o leoedd i aros i orffwys a mwynhau’r golygfeydd o gefn gwlad. Mae amrywiol bontydd troed yn cysylltu’r llwybrau â’i gilydd, felly fe allwch chi greu eich llwybr eich hun drwy’r warchodfa.
Wyddoch chi? Disgrifiwyd Y Glyn yn gyntaf gan y teithiwr a’r botanegwr enwog Edward Llwyd ym 1699.
Mae’r Glyn yn gartref i amrywiaeth eang o anifeiliaid a phlanhigion, o ysguthanod i arlleg gwyllt. Dysgwch fwy am fywyd gwyllt y Glyn: Darganfyddwch am Fywyd Gwyllt y Glyn
I gael rhagor o wybodaeth am y safle hwn, darllenwch daflen y safle.
Cyfleusterau
- Paneli dehongli gyda gwybodaeth am hanes y safle a’r bywyd gwyllt lleol
- Mae meinciau ar y safle i chi gael gorffwys
- Mae modd parcio ar hyd Ffordd Coed Coch
- Mae siopau, caffis a bwytai i’w gweld ar hyd Ffordd Abergele yn Hen Golwyn
Mae croeso i gŵn ar y safle hwn – cofiwch ddefnyddio’r biniau baw cŵn.
Dilynwch y Cod Cefn Gwald wrth ymweld â’n Gwarchodfeydd Natur Lleol.
Sut i fynd yno
Cerdded a Beicio
Dim ond 4 munud o daith ar droed, ac 1 munud ar feic, yw’r safle o ganol Hen Golwyn, a gallwch fynd yno ar hyd Ffordd Coed Coch a Ffordd Llaneilian.
Cludiant cyhoeddus
Mae’r safle bws agosaf wedi’i leoli 3 munud i ffwrdd ar droed, ger y Ship Inn. Mae bysiau hefyd ar gael o orsaf drenau Bae Colwyn ar gyfer pobl sy’n teithio yno o bell.
Gyrru
Dilynwch yr A55 at gyffordd 22 am Hen Golwyn ac yna ewch am yr A547, cyn troi i ffwrdd ar Ffordd Coed Coch.
Sut ydyn ni’n gwarchod ein coetiroedd?
Rydym yn mynd ati i fonitro ein coed am arwyddion o straen a chlefydau. Pan fydd yna broblemau diogelwch amlwg, fe fyddwn ni’n gwneud y lleiaf posib o waith sydd ei angen, fel torri brigau coeden i fod yn bolyn uchel neu gwympo coeden i adael pren marw yn gorwedd ar lawr. Mae’r ddau yn gynefinoedd gwerthfawr iawn ynddynt eu hunain.
Bygythiadau i’n coetiroedd
Mae Clefyd Coed Ynn yn glefyd sy'n effeithio coed ynn yn nifer o’n gwarchodfeydd natur a pharciau coetir llydanddail.
Beth sydd i’w weld gerllaw?
O fewn taith fyr yn y car neu ar feic i’r gorllewin o’r Glyn, fe ddewch chi ar draws gwarchodfa natur leol arall, sef Coed Pwllycrochan. Mae’r safle hwn yn agos iawn at ganol tref Bae Colwyn ac mae yno lwybr darganfod coetiroedd – beth am fynd am dro fel teulu gyda’n pecyn darganfod i helpu’r plant i ddysgu am ecosystem y coetir.
I’r Dwyrain o Bwllycrochan fe allwch chi ymweld â Nant y Groes. Mae llai o ddefnydd yn cael ei wneud o’r coetir hwn, ond mae yma gwrs cyfeiriannu, helfa sborion bywyd gwyllt a hwyl i’r teulu i gyd, a gynlluniwyd yn wreiddiol ar gyfer Ysgol Fabanod Glan y Môr.