Mae coetiroedd yn ecosystemau arbennig o gyfoethog ac yn gynefin i gannoedd o rywogaethau amrywiol, o wiwerod i ffwng.
Wyddech chi?Gellir rhannu coetiroedd yn 4 haen! Y brigdwf, yr isdyfiant, yr haen lysiau a’r haen sy’n gorchuddio’r ddaear. Mae pob haen yn cynnal ei grŵp ei hun o blanhigion ac anifeiliaid ac yn cael ei diffinio yn ôl faint o olau y mae’n ei dderbyn drwy’r brigdwf.
I ddysgu mwy am fywyd gwyllt coetiroedd yn gyffredinol, edrychwch ar ein canllaw gwylio coetiroedd
Y brigdwf
Mae brigdwf Y Glyn wedi ei lunio o goed sycamorwydd yn bennaf, sy’n enwog am eu codau hadau tebyg i hofrennydd sy’n disgyn i’r ddaear yn yr hydref. Mae coed derw digoes a choed ynn hefyd wedi eu gwasgaru drwy’r safle.
Tybed faint allwch chi eu darganfod gyda’n canllaw chwilio defnyddiol?
Yn y brigdwf hyfryd hwn gallwch hefyd weld y wiwer lwyd, y titw cynffon hir, jac-y-do, yr ysguthan a’r bwncath.
Yr isdyfiant
Yn yr haen hon mae llwyni a choed bychain sy’n tyfu mewn ychydig llai o olau fel coed celyn, coed ynn ifanc a choed cyll. Yn cuddio yn y llwyni fe allwch chi ddod o hyd i’r fwyalchen, y fronfraith, glas y dorlan, y ji-binc a’r dringwr bach.
Mae coed sy’n pydru gyda boncyffion gwag yn cynnig lloches i sawl rhywogaeth o ystlumod, gan gynnwys yr ystlum lleiaf, yr ystlum hirglust a’r ystlum barfog.
Yr haen lysiau
Gellir gwahanu haen lysiau’r Glyn yn dri chategori penodol: llystyfiant coetir, llystyfiant gwair hirach a llystyfiant gwlyb ar lan yr afon. Mae’r llystyfiant coetir yn cynnwys rhywogaethau fel craf y geifr (garlleg gwyllt) a’r gorthyfail sy’n amlwg drwy’r Glyn.
Mae’r llystyfiant gwair hirach yn cynnwys danadl, y mapgoll, yr efwr, a roced y berth. Ar hyd glannau’r afon mae’r farchrawnen fawr, yr helyglys a’r maswellt penwyn. Mae’r haen lysiau amrywiol yn creu cynefin bendigedig ar gyfer pob math o bryfed gan gynnwys gloÿnnod byw, gwenyn a chwilod.
Yr haen sy’n gorchuddio’r ddaear
Dydi’r haen hon ddim yn derbyn unrhyw olau mewn gwirionedd ac mae’n cynnwys ffyngau, mwsogl, trwch o ddail dan draed a mwd maethlon sy’n cuddio pryfed y mae’n well ganddynt amodau gwlypach, fel pryfed genwair a gwrachod lludw.
Mae moch daear hefyd wedi’u gweld yn tyrchu ac yn chwilota drwy’r coetir hwn. Mae’r haen hon hefyd yn gartref i rywbeth rydym yn hoffi ei alw’n we goed eang.
Y We Goed Eang
Mae’r term hwn yn cyfeirio at y rhwydwaith cudd o ffyngau sy’n cysylltu gwreiddiau’r coed a gwreiddiau’r planhigion ac yn galluogi nitrogen, dŵr, carbon a maetholion eraill i symud o gwmpas. Dim ond mewn coetiroedd naturiol sydd heb eu niweidio rhyw lawer y mae’r rhwydwaith hon yn ffurfio.
Mae coed yn defnyddio’r rhwydwaith hon i gyfathrebu gyda’i gilydd ac anfon arwyddion pryder ynglŷn â sychder, afiechyd neu ymosodiadau gan bryfed.
Mae hyn yn galluogi coed sydd mewn trafferth i dderbyn mwy o ddŵr neu faetholion er mwyn eu helpu i oroesi’r cyfnod o bryder. Neu, mae’n helpu coed eraill i baratoi ar gyfer yr un amodau os nad ydynt wedi eu heffeithio eto.
I gael rhagor o wybodaeth am yr holl fywyd gwyllt y gellir dod ar ei draws yn y Glyn, ewch i wefan Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.