Nodwedd gelf gyhoeddus ger Gerddi Combermere
Bydd nodwedd gelf fertigol yn borth i ddenu ymwelwyr o’r traeth a glan y môr i ganol tref Llandrillo-yn-Rhos. Bydd yn cael ei ddylunio i gael ei weld o Bromenâd y Gorllewin, Ffordd Rhos a chyffordd promenâd Rhos. Bydd y nodwedd celf unigryw yn adlewyrchu hanes a diwylliant y dref.
Palmentydd i Gydnabod Elfennau Pwysig
Byddwn yn parhau â’r palmentydd i gydnabod elfennau pwysig sy’n rhan boblogaidd o bromenâd Bae Colwyn. Bydd y themau a thestunau cerdyn post yn adlewyrchu ac yn tynnu sylw at elfennau allweddol o hanes a threftadaeth Llandrillo-yn-Rhos. Bydd codau QR yn annog pobl i ddysgu mwy.
Ffynnon Ddŵr
Byddwn yn cadw dwy elfen hanesyddol pwysig o’r promenâd. Bydd y ffynnon ddŵr, sydd ar hyn o bryd i'r de o Harbwr Llandrillo-yn-Rhos, yn cael ei hadleoli i'r parth gweithgareddau newydd. Os yn bosibl, ein nod fydd darparu cyflenwad dŵr newydd i’r ffynnon. Byddwn hefyd yn cadw’r cafn dŵr o droed Arglawdd Cayley.
Polion Totem Diwylliannol
Bydd polion totem pren yn cael eu gosod gyda phaneli gwybodaeth a gwaith celf wedi’i gerfio yn unigryw i’r cynllun. Bydd y rhain yn creu canolbwynt mewn amrywiol leoliadau ar hyd y promenâd.
Llochesi Celf
Byddwn yn gweithio’n agos gydag Oriel Môr i ddefnyddio’r llochesi newydd fel orielau celf ‘dros dro’ a chydfynd â phrosiectau celf presennol yn yr ardal ehangach. Bydd y rhain yn fannau hyblyg sy’n golygu y gellir eu newid ar gyfer arddangosfeydd newydd.
Hygyrchedd celf a diwylliant
Bydd yr holl elfennau hyn a gwybodaeth ddefnyddiol arall am y promenâd newydd ar gael i ddefnyddwyr dall a rhannol ddall drwy dechnoleg. Mae NaviLens yn ap l lywio a labelu a ddyluniwyd yn arbennig -byddwn yn gweithio’n agos gyda’r RNIB i wneud defnydd effeithiol o’r cynllun.
Tudalen nesaf