Ciosgau
Rydym wedi sicrhau cyllid i newid y ciosgau presennol i gyfleusterau modern. Mae lleoliad y ciosgau newydd i’w gweld ar y prif gynllun (rhifau 11 ac 12).Rydym yn gweithio’n agos gyda’n contractwyr a thenantiaid y ciosgau presennol i’w cadw’n agored am gyhyd â phosibl cyn iddynt gael eu dymchwel.
Mannau digwyddiadBydd yr ardaloedd digwyddiadau yn fannau agored, hyblyg, ble gall grwpiau a sefydliadau lleol gwrdd a chynnal digwyddiadau bach. Byddant hefyd yn rhoi cyfleoedd i fusnesau lleol sefydlu stondinau dros dro. Bydd y palmant yn defnyddio patrymau o ddyluniad tapestri Cymreig i gynnig elfen unigryw i’r lleoliad.
Dodrefn picnicBydd y dodrefn picnic newydd yn cynnwys lle hygyrch ar gyfer defnyddwyr ar olwynion, gan ddarparu lle i bobl alw a mwynhau’r traeth a’r promenâd newydd.Byddwn hefyd yn cynnwys meinciau ‘Hapus i Sgwrsio’ i annog rhyngweithio cymdeithasol.
LlochesiMae'r llochesi’n cynnwys nodweddion newydd fel goleuadau pŵer solar ac maent wedi eu dylunio i fod yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a sgwteri. Roedd dyluniad caeedig yr hen lochesi yn annog ymddygiad gwrthgymdeithasol ac arweiniodd hynny at ddirywio’u cyflwr. Bydd y llochesi newydd yn rhoi cysgod rhag y tywydd ond bydd yr ochrau cymharol agored yn atal yr un problemau rhag digwydd eto
Bocsys blodau a MeinciauBydd bocsys blodau glan y môr newydd yn cynnwys bocsys blodau isel ac uchel gyda phlanhigion yn gorchuddio’r ddaear a choed mewn bocsys uchel ar hyd y parth gweithgaredd. Mae’r bocsys uchel yn amddiffyn y coed a bydd yr ochrau hefyd yn cynnwys seddi.
Bydd yna amrywiaeth o wahanol fathau o seddi ar hyd y promenâd i ddarparu lle i eistedd a mwynhau’r golygfeydd. Bydd y seddi wedi eu gosod yn ofalus i wahanu’r gwahanol ardaloedd o’r promenâd, gan ddileu’r angen am byst neu rwystrau.
Standiau beics a gorsaf trwsio beicsBydd yna dri set o standiau beics ar hyd y promenâd, gan alluogi beicwyr ar Lwybr Cenedlaethol 5 i gael egwyl. Bydd yna hefyd orsaf trwsio beics ar gyfer trwsio a rhoi gwynt yn y teiars.
Marcwyr iechydBydd yna farcwyr yn yr arwyneb bob 50m, yn parhau o bromenâd Bae Colwyn. Gall y rhain gael eu defnyddio fel cymorth hyfforddi i gerddwyr a rhedwyr a byddant yn annog ymarfer corff ar hyd y promenâd.
Campfa awyr agoredBydd offer chwarae ac ymarfer yn cael eu gosod ar hyd Arglawdd Cayley. Mae’r offer wedi’i ddewis yn benodol i bobl hŷn i ymarfer y cymalau ac ar gyfer ymarfer ysgafn i’r galon a’r cyhyrau, ond gall pob grŵp oed eu defnyddio.
Tudalen nesaf