Mae Bryn Euryn yn gartref i safle lotment a ddatblygwyd o'r newydd a Gwarchodfa Natur Leol boblogaidd.
- Lleoliad - Tan y Bryn Road, Llandrillo-yn-Rhos
Datblygwyd y lotments yn 2010 ac maent yn darparu 12 plot lotment ar dir uwch ar gyfer mynediad i bobl anabl, 70 o blotiau safonol, a dyfrdwll gyda phwmp dŵr yn cael ei bweru â'r haul a siediau wedi ei hadeiladu yn bwrpasol gyda systemau cynaeafu dŵr glaw.
Mae'r Warchodfa Natur Leol yn adnabyddus am ei dir glaswelltog calchfaen sydd yn cynnwys nifer o rywogaethau planhigion prin ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Mae dwy Heneb Gofrestredig yn yr ardal, un ar y copa ac un yng nghornel gogledd ddwyreiniol y safle. Mae'r safle'n boblogaidd iawn ar gyfer hamddena, gyda’r golygfeydd godidog o ben y bryn yn ychwanegu at ei phoblogrwydd.