Yn ystod yr ail ganrif ar bymtheg roedd tŷ a gerddi Pentre Mawr yn gartref i'r teulu Jones. Bron i dri chan mlynedd yn ddiweddarach prynodd yr Awdurdod Lleol y parc.
- Lleoliad - Dundonald Avenue, Abergele
- Cyfleusterau - Cerfluniau, gardd dawel â wal o'i chwmpas, llwybr terfyn yn caniatáu mynediad i'r parc cyfan, ardal bioamrywiaeth a dôl hardd.
Yn 2012 crëwyd llwyfan gwylio a dau gynefin ynys yn y pwll mawr i gynyddu mynediad, ymwybyddiaeth a mwynhad y cyhoedd o’r rhan hon o'r safle. Ni fyddai’r prosiect hwn wedi bod yn bosibl heb waith caled Cyfeillion Parcdiroedd Abergele a chyllid hael Waste Recycling Environmental Ltd, busnes nid-er-elw sy'n rhoi grantiau i brosiectau cymunedol, amgylcheddol a threftadaeth ledled y Deyrnas Unedig yn defnyddio arian a roddwyd gan FCC Environment i'r Gronfa Cymunedau Tirlenwi.