Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Pwll Padlo Llanfairfechan


Summary (optional)
start content

Lleoliad:  Pwll Padlo Llanfairfechan, West Shore Road, Llanfairfechan LL33 0DA.

 

Ger llyn mawr, parc plant a Llecyn Gemau Amlddefnydd, mae hwn yn bwll petryal traddodiadol sy’n mesur 17m x 6m, ac sy’n 0.6m o ddyfnder ar ei bwynt dyfnaf.

Gyda golygfeydd anhygoel tua Bangor ac Ynys Môn, mae'r pwll padlo'n fan delfrydol i fwynhau diwrnod hamddenol braf. Mae byrddau picnic gyda seddi ar gael ac mae’r ffens derfyn ddiogel o’i amgylch yn rhoi tawelwch meddwl ychwanegol i rieni.

Mae yna gaffis a chludiant cyhoeddus o fewn pellter cerdded, gyda dewis o siopau coffi hefyd o fewn y dref.

O ganlyniad i waith cynnal a chadw dyddiol bydd y pwll nofio ar agor o 10am tan 7pm.

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol/sylwadau am byllau padlo, anfonwch e-bost at hamdden.leisure@conwy.gov.uk neu ffoniwch 0300 4569 525.

Rheolau pyllau padlo plant

  • Nid yw’r cyfleuster hwn yn cael ei oruchwylio’n swyddogol
  • Rhaid i blant ifanc gael eu goruchwylio gan oedolyn
  • Dim rhedeg yn y pwll nac o’i amgylch
  • Dim deifio
  • Dim bwyd na diod yn y dŵr
  • Dim gwydr o amgylch y pwll
  • Peidiwch â gadael ysbwriel yma
  • Dim cŵn o gwbl yn yr ardal yma
  • Gwisgwch esgidiau pwll nofio/glan môr priodol

Cwestiynau cyffredin

Pa mor fawr ydi’r pyllau padlo Conwy? 

Dimensiynau pwll padlo
     Pwll padlo               Dimensiynau                       Faint o ddŵr           
 Craig y Don                                     116m x 21m x 0.66m                  1608 metrau ciwbig / 12,060 galwyn
 Llanfairfechan   17m x 6m x 0.8m   82 metrau ciwbig / 615 galwyn
 Penmaenmawr   11m x 8m x 0.33m  29 metrau ciwbig / 217 galwyn
 Llandrillo-yn-Rhos  17m x 8m x 0.5m  68 metrau ciwbig / 510 galwyn

Pa mor aml mae’ch staff yn mynd i’r pyllau padlo?

Bydd aelod o’r tîm yn ymweld â phob pwll nofio pob dydd.

Sut ydych chi’n glanhau’r pyllau?

Mae’r tasgau dyddiol yn cynnwys:

  • adlifo - ydi gwrthdroi llif y dŵr i fflysio unrhyw halogydd o’r hidlydd
  • gwneud yn siŵr bod lefel y dŵr yn iawn
  • ychwanegu a gwirio lefel y diheintydd cemegol
  • glanhau’r pwll a’r ardal ger y pwll

Sut a pha mor aml ydych chi’n profi’r dŵr?

Rydym ni’n cymryd darlleniadau clorin a pH ddwywaith y dydd. Mae cwmni annibynnol yn cynnal profion microbiolegol bob mis. 

Pam bod y pyllau nofio yn agor am 10am?

Mae hyn yn rhoi amser i’n tîm wneud y tasgau dyddiol (uchod).

Ydi’r pyllau yn cael eu draenio a’u hail-lenwi dros yr haf?

Anaml iawn y mae’n rhaid gwagio ac ail-lenwi pyllau padlo Craig y Don, Penmaenmawr a Llandrillo-yn-Rhos. Oherwydd cylchrediad cyfyngol, caiff pwll padlo Llanfairfechan ei wagio a’i ail-lenwi’n amlach.

end content